Cabaret
Math o adloniant sy'n cynnwys comedi, canu, dawns a theatr ydy cabaret. Un o brif nodweddion cabaret yw'r lleoliad lle cynhelir y perfformiad - yn aml, mewn bwyty neu glwb nos gyda llwyfan a chyda'r gynulleidfa'n eistedd wrth fyrddau (yn aml yn bwyta neu'n yfed) tra'n gwylio'r perfformiad a gyflwynir gan yr MC, (o'r Saesneg:Master of ceremonies).
Gall cabaret gyfeirio hefyd at fath o buteindy Mediteranaidd, sef bar gyda byrddau lle mae menywod yn cymysgu â'r cwsmeriaid. Yn draddodiadol, gallai sefydliadau o'r fath gynnwys rhyw fath o adloniant, yn gantorion a dawnswyr gan amlaf.
Cabaret enwog
golygu- The Butterfly Club yn Melbourne, Awstralia
- Le Lido, Moulin Rouge a'r Lapin Agile ym Mharis, Ffrainc
- Cabaret Voltaire yn Zürich
- Tropicana yn Havana, Ciwba
- The Blue Angel yn Ninas Efrog Newydd
- Bistro by the Sea in Matunuck, Rhode Island
- Cabaret Red Light yn Philadelphia, Pennsylvania
- Metro Chicago yn Chicago, Illinois