Francis Drake

morwr o Loegr a phrifatwr (1540-1596)

Fforiwr a morwr o Sais oedd Syr Francis Drake (tua 154028 Ionawr 1596).[1]

Francis Drake
Ganwydc. 1540 Edit this on Wikidata
Tavistock Edit this on Wikidata
Bu farw28 Ionawr 1596 Edit this on Wikidata
Portobelo Edit this on Wikidata
Man preswylBuckland Abbey Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethfforiwr, morwr, person milwrol, Herwlongwriaeth, gwleidydd, peiriannydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Senedd 1572-83, Member of the 1584-85 Parliament, Member of the 1593 Parliament Edit this on Wikidata
TadEdmund Drake Edit this on Wikidata
MamMary Mylwaye Edit this on Wikidata
PriodMary Newman, Elizabeth Sydenham Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata
llofnod

Bywyd cynnar a theulu

golygu

Cafodd ei eni yn Tavistock, Dyfnaint. Ei dad oedd Edmund Drake, ond nid yw unrhyw un yn siwr o enw cyntaf ei fam er tybir mai Mary Mylawye ydoedd. Priododd Mary Newman ym 1569; bu farw Mary ym 1581. Priododd Elizabeth Sydenham ym 1585.

Prynodd Drake ei gartref, Abaty Buckland, ym 1580.

Teithiau i'r Caribî

golygu

Teithiodd Drake i'r Caribî pedwar gwaith, y tro cyntaf gyda'i gyfyrder John Hawkins yn 1567.

Y fordaith o amgylch y byd (1577–80)

golygu

Yn 1577 hwyliodd Drake i ynysoedd Cabo Verde oddi ar arfordir Gorllewin Affrica, ac oddi yno i dde'r Iwerydd a thrwy Gulfor Magellan. Fforiodd ar hyd arfordir Califfornia, gan hawlio'r tir i Loegr, a cheisiodd hwilio am Dramwyfa'r Gogledd Orllewin. Teithiodd i'r gorllewin, ar draws y Cefnfor Tawel, trwy India'r Dwyrain ac ar draws Cefnfor India, o amgylch Penrhyn Gobaith Da ac yn ôl i Loegr. Drake oedd y Sais cyntaf, a'r ail forlywydd o unrhyw wlad, i hwylio o amgylch y byd, a phan dychwelodd i Loegr cafodd ei urddo'n farchog gan y Frenhies Elisabeth ar fwrdd ei long, y Golden Hind.

Cyrchoedd yn erbyn Sbaen

golygu

Yn ystod y 1580au, arweiniodd Drake sawl cyrch ar longau Sbaen. Yn 1587 ymosododd ar longau Sbaenaidd ym Mae Cádiz, mewn brwydr a elwir "llosgi barf Brenin Sbaen".

Ei fordaith olaf

golygu

Bu farw o ddysentri ger Puerto Bello, Panama.

Cyfeiriadau

golygu
  1. William W. Lace (2009). Sir Francis Drake. Infobase Publishing. t. 100. ISBN 978-1-4381-2888-7.