Penrhyn mwyaf enwog De Affrica yw Penrhyn Gobaith Da. Fe'i lleolir ger Cape Town ac fel arfer mae pobl yn meddwl ei bod hi'n ffin rhwng Môr Iwerydd a Cefnfor India, ond dydy hynny ddim yn wyr am fod Penhryn Agulhas yn fwy deheuol na Penhryn Gobaith Da.

Map o Benrhyn Gobaith Da (tua 1888)
Benrhyn Gobaith Da
Gweler hefyd Penrhyn (gwahaniaethu).

HanesGolygu

Y morwr Ewropeaidd cyntaf a aeth o gwmpas y penrhyn hwn oedd Bartolomeu Dias, morwr o Bortiwgal, a aeth o gwmpas Penhryn Gobaith Da yn 1488. Oherwydd y tywydd stormus ar y pryd rhoddodd Dias yr enw "Penrhyn Tymhestloedd" (Cabo das Tormentas) arno, ond newidiodd Ioan II o Bortiwgal yr enw i "Benrhyn Gobaith Da" (Cabo da Boa Esperança), am iddo obeithio y byddai hynny'n fordd newydd i'r dwyrain.

Ar 6 Ebrill, 1652 cododd Jan van Riebeeck, masnachwr o'r Iseldiroedd, wersyll gyflenwi i'r Cwmni Dwyrain India Iseldiraidd. Datblygodd y wersyll hon i fod yn Cape Town. Ar 31 Rhagfyr, 1687 cychwynnodd grŵp o Hiwgenotiaid o Frainc i'r Penhryn Gobaith da er mwyn osgoi erledigaeth crefyddol.

Ar 19 Ionawr, 1806 cipiodd Prydain Fawr Benrhyn Gobaith Da. O ganlyniad i gytundeb rhwng Prydain a'r Iseldiroedd ym 1814 daeth ardal y penrhyn yn wladfa Brydeinig.

  Eginyn erthygl sydd uchod am Dde Affrica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.