Francisco Coloane
Nofelydd ac awdur straeon byrion o Tsile oedd Francisco Coloane (19 Gorffennaf 1910 – 5 Awst 2002) sy'n nodedig am ei ffuglen antur, yn enwedig straeon am y môr.
Francisco Coloane | |
---|---|
Ganwyd | Francisco Coloane Cárdenas ![]() 19 Gorffennaf 1910 ![]() Quemchi ![]() |
Bu farw | 5 Awst 2002 ![]() Santiago de Chile ![]() |
Dinasyddiaeth | Tsile ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, person milwrol ![]() |
Arddull | nofel, stori fer ![]() |
Plaid Wleidyddol | Communist Party of Chile ![]() |
Mudiad | Generation of '38 ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Genedlaethol am Lenyddiaeth, chevalier des Arts et des Lettres, Urdd Teilyngdod Diwylliannol Gabriela Mistral ![]() |
Ganwyd yn Quemchi ar ynys Chiloé a threuliodd ei ieuenctid yn neheudir y wlad. Symudodd i Santiago i weithio'n newyddiadurwr.
Enillodd wobr Llyfr Tsileaidd y Flwyddyn am ei gyfrol Golfo de penas (1945),[1] a derbyniodd y Wobr Lenyddol Genedlaethol yn 1964.[2] Cyhoeddodd ei hunangofiant, Los pasos del hombre, yn 2000. Bu farw yn Santiago yn 92 oed.
LlyfryddiaethGolygu
Casgliadau o straeon byrionGolygu
- Cabo de Hornos (1941).
- Golfo de penas (1945).
- Tierra del fuego (1956).
NofelauGolygu
- El último grumete de La Baquedano (1941).
- Los conquistadores de la Antártida (1945).
HunangofiantGolygu
- Los pasos del hombre (2000).
CyfeiriadauGolygu
- ↑ (Saesneg) Francisco Coloane. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Medi 2019.
- ↑ Celina Manzoni, "Coloane, Francisco" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), t. 146.
Darllen pellachGolygu
- D. Petreman, La obra narrativa de Francisco Coloane (Santiago: Editorial Universitaria, 1987).