Frank Richards
Awdur o Gymru a milwr y Rhyfel Byd Cyntaf oedd Frank Richards, neu Francis Philip Woodruff (Mehefin 1883 - 1961).
Frank Richards | |
---|---|
Ganwyd | 1883 |
Bu farw | 1961 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | hanesydd |
Gwobr/au | y Fedal Filwrol, Medal Ymddygiad Nodedig |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Frank yn fferm Machen Uchaf, Machen, Gwent, yn fab ordderch i Francis Augustus Woodruff, perchennog gwaith tun a gwaith glo, a Mary Ann Richards ei forwyn [1]. Gan fod ei dad yn cydnabod mai ef oedd y tad, rhoddwyd y cyfenw Woodruff ar y dystysgrif geni[2]. Bu farw ei fam tua 1892 a magwyd Frank wedyn gan frawd ei fam a defnyddiodd y cyfenw Richards oddi ar hynny, os nad cynt.
Prin fu ei gyfleoedd addysg. Bu am gyfnod byr yn ddisgybl yn Ysgol Ddiwydiannol Sir Fynwy (ysgol y wyrcws) ac Ysgol Genedlaethol Blaenau Gwent gan ymadael a'r ysgol yn 12 mlwydd oed[3] i weithio mewn un o lofeydd ei dad naturiol.
Llyfryddiaeth
golygu- Old Soldiers Never Die (1933)
- Old Soldier Sahib (1936)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "AFFILIATION CASE - South Wales Echo". Jones & Son. 1886-07-10. Cyrchwyd 2017-11-13.
- ↑ Swyddfa Gofrestru Gyffredinol, Genedigaethau 2il chwarter 1883, Cyfrol 11A tudalen 236, cofnod Woodruff, Francis Phillip
- ↑ Archif Gwent, National School Admission Registers & Log-Books 1870-1914 (Blaina School (Boys) Cofnod Rhif: CEA167/12