Machen

pentref ym Mwrdeistref Sirol Caerffili

Pentref eitha mawr yng nghymuned Bedwas, Tretomos a Machen, bwrdeistref sirol Caerffili, Cymru, yw Machen.[1][2] Saif tua 3 milltir i'r dwyrain o dref Caerffili ar ffordd yr A468. Mae Bedwas a Threthomas gerllaw, sydd ynghyd â Machen yn llunio ward cyngor. Ceir Castell Machen, un o gestyll y tywysogion Cymreig, ger y pentref.

Machen
Clubland, Machen - geograph.org.uk - 307206.jpg
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerffili Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5988°N 3.1347°W Edit this on Wikidata
Cod OSST215895 Edit this on Wikidata
Cod postCF83 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auHefin David (Llafur)
AS/auWayne David (Llafur)
Map

Saif y pentref wrth droed Mynydd Machen. Mae'n bosibl cerdded i fyny ac ar hyd y mynydd, lle mae nifer o feini a enwir mewn chwedlau lleol. Creodd Dennis Spargo, trigolyn o Fachen, ffilm o'r enw Machen: Then & Now, sef hanes y pentref yn 2005, ynghyd â'i deulu a'i ffrindiau.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hefin David (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Wayne David (Llafur).[3][4]

Hen domenni gwastraff uwchben Machen

Hanes diwydiannolGolygu

Mae gan pentref Machen wreiddiau yn y diwydiant glo a haearn yn deillio o'r 17g. Er nid oes llawer o ôl y diwydiannau i'w gweld erbyn hyn, roedd y pentref yn leoliad i Efail Machen a sawl pwll glo. Mae yna lwybr hanesyddol leol sy'n ymweld a rhai o'r mannau yma. Yn gynnar yn ei hanes, cychwynodd Efail Machen ddefnyddio y dull Osmond o gynhyrchu haearn gyr.

Roedd un o orsafoedd rheilffordd Brycheiniog a Merthyr ym Machen, gyda changen i Gaerffili ar reilffordd Pontypridd, Caerffili a Chasnewydd, a gaewyd i deithwyr ym 1956. Heddiw mae yna gangen weddilliol o RB&M yn agored i wasanaethu chwarel Hanson Aggregates ym Machen.

ChwaraeonGolygu

Mae gan Machen dîm rygbi lleol. Maent yn chwarae yn Adran Pedwar y Dwyrain URC ac mae'r tîm yn gwisgo crysau glas gydag ochrau du, trowsus byr du a hosannau du. Maent yn chwarae eu gemau cartref ar Faes Lles Machen.

AddysgGolygu

Mae yna ysgol cynradd ym Machen or enw Ysgol Gynradd Machen. Mae'r ysgol yn darparu ei addysg trwy gyfrwng y Saesneg. Mae yna hefyd ysgol Gristnogol annibynnol ym Machen o'r enw 'Wycliff Independent Christian School', sydd yn darparu addysg trwy gyfrwng y Saesneg a thrwy weledigaeth Gristnogol unigryw.

Pobl NodedigGolygu

  • Daw'r gwleidydd Ron Davies o Fachen. Anrhydeddwyd ef, yn aelod o'r Orsedd gyda'r enw barddol "Ron o Fachen". Nodir Ron hefyd fel "pensaer datganoli Cymreig", tra'n Ysgrifennydd Gwladol Dros Cymru yng nghabined Plaid Lafur Tony Blair.
  • Ian Thomas - cyn gricedwr i Glwb Criced Morgannwg. Fe chwaraeodd dros Forgannwg rhwng 1998 a 2005 gan ennill dwy dlws y Gynghrair Undydd gyda'r sir. Cofir amdano hefyd am iddo sgorio'r can rhediad cyntaf i'w ddarlledu ar deledu yn 2004 (116 heb ei wared yn erbyn Gwlad yr Haf).
  • Arthur Machen (Arthur Jones) (1863-1947), ffigwr cwlt o'r 1920au a gyhoeddodd nifer o storiau iasoer am y byd goruwch naturiol gan gynnwys The Bowmen.

CyfeiriadauGolygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 3 Tachwedd 2021
  3. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014