Frank Tenpenny

cymeriad GTA

Mae Frank Tenpenny yn gymeriad yn y gyfres gêm fideo Grand Theft Auto, sy'n ymddangos fel cymeriad canolog a phrif wrthwynebydd yn y gêm fideo Grand Theft Auto: San Andreas. Mae'n heddwas llwgr sy'n gweithio i uned o'r enw C.R.A.S.H. (Community Resources Against Street Hoodlums). Mae'r cymeriad yn cael ei leisio gan yr actor Samuel L. Jackson.[1]

Frank Tenpenny
Bu farw1992 Edit this on Wikidata
Los Santos Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Galwedigaethheddwas Edit this on Wikidata

Disgrifiad golygu

Mae Tenpenny yn aelod o Adran Heddlu Dinas Los Santos (LSPD). Gyda Jimmy Hernandez ac Eddie Pulaski (a chynt y diweddar heddwas Ralph Pendelbury), mae'n rhan o uned arbennig C.R.A.S.H. (Community Resources Against Street Hoodlums). Mae'r uned yn gyfrifol am gael gwared â'r ganiau sy'n rheoli rhannau helaeth o ddinas Los Santos. Ond mae'r uned yn hynod lwgr. Mae'r uned yn defnyddio ei wybodaeth am y gangiau mae'n cael ei gyflogi i'w trechu er mwyn eu gorfodi i ildio rhan o'u helw a'u cyflenwadau iddynt. Mae'r uned yn cyflawni gweithredoedd o drais gan yr heddlu yn rheolaidd, gan ei wneud bron yn gang ei hunan, ond gyda grym y gyfraith y tu ôl iddi.[2]

Rhagymadrodd golygu

Mae Tenpenny yng nghyd weithio yn C.R.A.S.H. efo Eddie Pulaski a Ralph Pendelbury. Cyn cychwyn y gêm mae Tenpenny yn gorfodi aelod newydd o C.R.A.S.H., Jimmy Hernandez i ladd Pendelbury gan fod Pendelbury wedi bod yn cyd-weithio gydag adran weinyddiaeth fewnol LSPD i ymchwilio i lygredigaeth yr uned C.R.A.S.H. Trwy gytuno i gyflawni'r weithred mae Hernandez yn dod yn rhan o'r llygredigaeth.[3]

Perthynas a CJ golygu

Carl CJ Johnson (sy'n cael ei adnabod fel CJ) yw brif gymeriad sy'n cael ei reoli gan y chwaraewr yn y gêm. Mae prif stori'r gêm yn dechrau gyda dychweliad CJ i Los Santos o Liberty City ar gyfer angladd ei fam. Bu CJ yn aelod o gang Grove Street Families (GSF) cyn gorfod ffoi o'r ddinas wedi marwolaeth Brian, ei frawd iau.

Mae CJ yn dal tacsi o'r maes awyr i'r cartref teuluol. Ar y ffordd mae'n cael ei arestio gan aelod o'r adran C.R.A.S.H. Mae'r heddweision yn dweud wrtho y byddant yn ei fframio am lofruddiaeth Pendlebury oni bai ei fod yn gweithio iddynt yn gyfnewid am ei ddiogelwch personol a diogelwch ei deulu a'i ffrindiau.[4] Mae'n amlwg bod Tenpenny wedi adnabod CJ cyn iddo symud i Liberty City ac mae CJ yn ei adnabod ef. Mae CJ yn galw Tenpenny wrth ei enw o gychwyn y gêm.

Mae Tenpenny yn hoffi rhoi pwysau ar CJ yn rheolaidd er mwyn ei atgoffa pwy sy'n rheoli'r gangiau mewn gwirionedd. Mae'n gweld CJ fel offeryn arall yn ei drafodaethau brwnt. Mae ef a Pulaski yn cribddeilio nifer o aelodau gang GFS, gan gynnwys Big Smoke a Ryder, ond fe ymddengys ei fod yn benodol falch o arfer rheolaeth dros CJ, trwy ei fygythiad i'w fframio am lofruddiaeth.[5]

Rheoli'r gangiau golygu

Er bod Tenpenny yn honni ei fod yn gosod y gangiau yn erbyn ei gilydd er mwyn iddynt ddileu ei gilydd, mae'n gyd weithio a gang y Ballas mewn gwirionedd, sydd (yn wahanol i'r GSF) heb unrhyw amheuon parthed delio â chrac cocên.

Mae CRASH yn gadael i gang Ballas i foddi'r ddinas mewn cyffuriau, gan droi nifer o aelodau GSF yn gaeth, gan eu chwalu i bob pwrpas. Mae Tenpenny hefyd yn argyhoeddi Smoke i fradychu gang GSF yn gyfnewid am arwain y gwaith cynhyrchu cyffuriau; yn ei dro, mae Smoke yn argyhoeddi Ryder i droi ei gôt hefyd. Mae Tenpenny a Pulaski, yn bersonol yn goruchwylio llofruddiaeth Beverley, mam CJ a Sweet Johnson gan gang y Ballas. Roedd Tenpenny yn gwybod byddai farwolaeth ei fam yn fodd o ddenu CJ adref i'w angladd, ac o'i ddychwelyd calliasai ei ddefnyddio i gael rheolaeth bellach dros gang ei deulu.

Wedi ei arestio yn ei dacsi ar y ffordd adref mae'r adran C.R.A.S.H. yn plannu tystiolaeth ar CJ yn ei gysylltu â llofruddiaeth Pendelbury, gan ganiatáu i Tenpenny i'w orfod i wneud beth bynnag mae'r heddlu llwgr yn dymuno.

Mae aelodau gang y Ballas yn ymosod ar Sweet ac mae'n cael ei glwyfo yn y frwydr ddilynol. Mae CJ yn cyrraedd maes y gad ac yn achub bywyd ei frawd, ond mae'r ddau yn cael eu harestio gan yr heddlu.[6] Mae Sweet yn cael ei roi ar brawf, yn cael ei ddyfarnu'n euog o nifer o droseddau ac yn cael ei ddedfrydu i garchar am oes. Ond mae gan CRASH angen help CJ o hyd. Maent yn ei herwgipio ac yn ei adael yng nghefn gwlad gyda'r dasg o ladd tyst yn eu herbyn mewn achos o lygredigaeth. Maent yn rhybuddio CJ i gadw draw o Los Santos wedi cyflawni'r dasg. Yn dilyn y digwyddiadau hyn, mae GFS yn colli eu dylanwad unwaith eto ac yn ildio eu holl diriogaethau i'r gangiau sy'n elyniaethus iddynt. Mae o hefyd yn rhybuddio CJ, sydd bellach yn ymwybodol o frad Big Smoke, i beidio gwneud dim i ddial arno nac i geisio datgelu llygredd C.R.A.S.H. Pe bai yn gwneud bydd ei frawd, Sweet, yn cael ei roi ar adain carchar sy'n cael ei reoli gan gang Ballas.

Am weddill y gêm mae Tenpenny a Pulaski yn ymddangos pob hyn a hyn i bwyso ar CJ gan ei orchymyn i blannu tystiolaeth ar neu ladd rhywun sy'n bygwth datgelu gwir liwiau C.R.A.S.H.

Gyda Big Smoke yn rheoli busnes crac cocên Los Santos, dan reolaeth C.R.A.S.H., mae cyrhaeddiad Tenpenny yn ehangu. Er gwaethaf hyn, mae'r FBI yn ymddiddori yn y don o gyffuriau sy'n amharu ar y ddinas. Yn y cyfamser, trwy gyd weithredu a syndicadau troseddol dinasoedd eraill San Andreas mae CJ wedi dod yn ddyn dylanwadol a phwerus. Mae Tenpenny yn penderfynu bod CJ bellach yn fygythiad iddynt. Mae'n gyrru CJ i mewn i'r anialwch gan ei orchymyn i ladd Hernandez, sydd wedi dod dan bwysau i dystiolaethu yn erbyn C.R.A.S.H. Mae o'n gadael CJ o dan oruchwyliaeth Pulaski. Mae CJ yn gwrthod lladd Hernandez. Mae pethau yn mynd o chwith ac mae Pulaski yn lladd Harnandez. Mae CJ yn lladd Pulaski wrth ffoi am ei fywyd.[7]

Mae Tenpenny yn cael ei roi ar brawf am lygredigaeth. Mae rhaglen newyddion yn adrodd bod diffyg tystiolaeth wedi arwain at fethiant yr achos. O ganlyniad i ryddfarniad Tenpenny mae poblogaeth Los Santos yn dechrau terfysgu.

Marwolaeth golygu

Mae CJ yn ymosod ar, ac yn lladd Big Smoke yn ei ffatri cyffuriau sy'n cael ei amddiffyn gan Tenpenny.

Mae Tenpenny yn ymddangos wrth i CJ lladd Big Smoke ac yn dweud wrtho fod ganddo recriwtiaid newydd yn yr heddlu sy'n barod i "agor eu llygaid" i'w ffordd o feddwl. Mae Tenpenny yn dechrau tân yn ffatri cyffuriau Big Smoke, gan obeithio lladd CJ yn danchwa, yna mae'n ffoi mewn injan dân. Mewn ymgais i'w rhwystro rhag ffoi, mae brawd CJ, Sweet, yn hongian ar ysgol yr injan dân; Mae CJ yn ei ddal yn ei gar to agored ac yn parhau i'w cwrso. Mae Tenpenny yn marw wedi i'r injan dân syrthio oddi ar bont i ganol Grove Street.[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. Samuel L Jackson ar IMDb adalwyd 20 Mai 2019
  2. GTA Fandom Frank Tenpenny adalwyd 20 Mai 2019
  3. Frank Tenpenny are Giant Bomb adalwyd 20 Mai 2019
  4. GTW Carl Johnson. adalawyd 17/ 5/ 2017
  5. GTW Frank Tenpenny adalwyd 20 Mai 2019
  6. IGN Walk-through Los Santos: Tenpenny missions adalwyd 20 Mai 2019
  7. GTA Sanandreas Walk-through High Noon adalwyd 21 Mai 2018
  8. GTA Fandom Carl Johnson adalwyd 17 Mai 2019