Freshwater West

traeth yng Nghymru

Traeth yng nghymuned Angle, Sir Benfro, Cymru, yw Freshwater West.[1] Saif ar bwys Castell Martin yn gyfagos i Faes Tanio Tanciau sy'n defnyddio'r rhan yma o Barc Cenedlaethol Sir Benfro.

Freshwater West
Mathtraeth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirY Stagbwll a Chastellmartin, Angle Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6565°N 5.0594°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Amgylchir y traeth gan dwyni tywod, a cheir tywod mân yno. Er gwaethaf ei harddwch naturiol, nid yw Freshwater West yn addas ar gyfer ymdrochi oherwydd ymchwyddiadau alltraeth peryglus a cheryntau cryf. Mae rhannau o'r traeth yn sugndraeth a cheir arwyddion rhybudd ar hyd yr arfordir o ganlyniad.

Er hynny, defnyddir brigdonwyr Freshwater West yn aml oherwydd ei ymchwydd cyson a thonnau cryf. Cynhaliwyd Pencampwriaethau Brigo Tonnau Cenedlaethol Cymru yn Freshwater West hefyd.

Golygfa'r traeth a thwyni tywod yn Freshwater West

Lleoliad ffilmio golygu

Yn 2009, defnyddiwyd traeth Freshwater West fel lleoliad fersiwn o'r ffilm Robin Hood sy'n serenu Russell Crowe a'r ffilm olaf ond un yng nghyfres Harry Potter and the Deathly Hallows: Rhan I. Ar gyfer y ffilm hon adeiladwyd bwthyn dros dro o'r enw Bwthyn Cragen.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 4 Chwefror 2022

Dolenni allanol golygu