Freshwater East

pentref yn Sir Benfro

Pentref yng nghymuned Llandyfái, Sir Benfro, Cymru, yw Freshwater East.[1][2] Lleolir y rhanfwyaf o'r pentref ar glogwyn yn edrych allan drost y bae. Saif ar arfordir yng ngorllewin y sir, tua 2 milltir i'r de o Llandyfái a 7 milltir o dre Penfro.

Freshwater East
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlandyfái Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.65°N 4.87°W Edit this on Wikidata
Cod OSSS018984 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/auSimon Hart (Ceidwadwr)
Map
Llwybr Arfordir Sir Benfro gyda thraeth Freshwater East yn y cefndir

'Porth Lliw' yw'r enw Cymraeg hanesyddol ar fae Freshwater East.[3] Mae peth defnydd ar yr enw hwn yn y cyfnod diweddar.[4]

Ychydig iawn o wasanaethau a chyfleusterau sydd yn Freshwater East, heblaw tafarn "The Freshwater Inn"[5] a gwasanaeth bws dwywaith y dydd mae maes carafan yn y dyffryn gerllaw[6]

Mae'r pentref yn gorwedd o fewn ffin Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a rhed Llywbr Arfordir Sir Benfro heibio iddo, rhwng y pentref a'r traeth.

Brodorion enwocaf y pentref yw sylfaenwyr y band Gorky's Zygotic Mynci.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[7] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[8]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 9 Tachwedd 2021
  3. B. G. Charles, The Place-names of Pembrokeshire, vol. 2 (Aberystwyth: National Library of Wales), t. 695.
  4. E.e., Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, 'Ffeithiau a Ffigyrau'.
  5.  The Freshwater Inn.
  6. Tabl amser bysiau Coastal Cruiser
  7. Gwefan Senedd Cymru
  8. Gwefan Senedd y DU

Dolen allanol golygu