Frie Leysen
Cyfarwyddwraig gwyliau o Wlad Belg oedd Frie Leysen (19 Chwefror 1950 – 22 Medi 2020). Fe'i ganwyd yn ninas Hasselt, Fflandrys. Astudiodd hanes celf ym Mhrifysgol Gatholig Louvain.
Frie Leysen | |
---|---|
Ganwyd | 19 Chwefror 1950 Hasselt |
Bu farw | 22 Medi 2020 Dinas Brwsel |
Dinasyddiaeth | Gwlad Belg |
Galwedigaeth | curadur, rheolwr theatr |
Gwobr/au | Gwobr Erasmus, Flemish Culture Award for General Cultural Achievement, Arkprijs van het Vrije Woord, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Brwsel |
Roedd hi'n gyfarwyddwraig canolfan gelf deSingel yn Antwerp o 1980 i 1991. Ym 1994, cyd-sefydlodd y Kunstenfestivaldesarts ym Mrwsel. Roedd yn gyfarwyddwraig artistig amryw wyliau rhyngwladol o fri, gan gynnwys Berliner Festspiele (2012) a Wiener Festwochen (2013, 2014).
Enillodd Wobr Erasmus yn 2014.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "Former Laureates: Frie Leysen". Praemium Erasmianum Foundation. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2020.