Frightened Rabbit
Band roc amgen o Selkirk, Yr Alban a ffurfiwyd yn 2003 oedd Frightened Rabbit. I ddechrau roedd yn brosiect unigol y lleisydd a’r gitarydd Scott Hutchison. Roedd aelodau olaf y band yn cynnwys Grant Hutchison (drymiau), Billy Kennedy (gitâr, bas), Andy Monaghan (gitâr, allweddellau), a Simon Liddell (gitâr).
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Dod i'r brig | 2003 |
Dechrau/Sefydlu | 2003 |
Genre | roc indie, indie folk |
Yn cynnwys | Scott Hutchison, Grant Hutchison |
Gwefan | http://frightenedrabbit.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Recordiwyd albwm stiwdio gyntaf Frightened Rabbit, Sing The Greys, fel deuawd gan y brodyr Hutchison, a chafodd ei ryddhau ar label annibynnol Hits the Fan yn 2006. Llofnododd y band wedyn i Fat Cat Records yn 2007, ac ymunodd y gitarydd Billy Kennedy â’r band ar gyfer ei ail albwm stiwdio, The Midnight Organ Fight (2008). Ymunodd y gitarydd ac allweddellydd Andy Monaghan i ychwanegu at eu perfformiadau byw wrth deithio gyda’r albwm.
Rhyddhawyd trydydd albwm stiwdio y band, The Winter of Mixed Drinks, yn 2010, gyda gitarydd Gordon Skene yn ymuno â'r band am ei daith gyfeiliorn. Llofnodwyd Frightened Rabbit i Atlantic Records yn ddiweddarach y flwyddyn honno, gan gyhoeddi ddau EP, A Frightened Rabbit EP (2001) a State Hospital (EP) (2012), cyn gyhoeddi ei bedwaredd albwm stiwdio, Pedestrian Verse yn 2013. Ymunodd gitarydd ychwanegol, Simon Liddell, â’r band ar ei daith ddilynol.
Ymadawodd Gordon Skene o’r band yn gynnar yn 2014, a recordiodd y band ei albwm Painting of a Panic Attack y flwyddyn ganlynol.
Bu farw Scott Hutchison ym mis Mai 2018 ar ôl mynd ar goll.
Disgyddiaeth
golyguAlbymau stiwdio
- Sing the Greys (2006)
- The Midnight Organ Fight (2008)
- The Winter of Mixed Drinks (2010)
- Pedestrian Verse (2013)
- Painting of a Panic Attack (2016)
Albymau byw
- Quietly Now! (2008)
- Live From Criminal Records (2014)
Recordiau estynedig
- A Frightened Rabbit EP (2011)
- State Hospital (2012)
- Recorded Songs (2017)
Aelodau
golygu- Scott Hutchison - prif lais, gitâr
- Grant Hutchison - drymiau, llais cyfeiliant
- Billy Kennedy - gitâr fas, gitâr, allweddellau, llais cyfeiliant
- Andy Monaghan - gitâr, allweddellau, gitâr fas
- Simon Liddell - gitâr
Cyn-aelodau
Gordon Skene - gitâr, allweddellau, llais cyfeiliant