Aderyn sy'n aelod o'r gwyddau yw Gŵydd ddof. Fe'i cedwir ar draws rhan helaeth o'r byd, i'w bwyta, am eu wyau neu weithiau am eu plu.

Gŵydd Embden

Yn Ewrop, Gogledd Affrica a gorllewin Asia, mae'r ŵydd ddof wedi ei datblygu o'r Ŵydd lwyd (Anser anser), a gelwir yr is-rywogaeth dof yn Anser anser domesticus. Yn nwyrain Asia, datblygwyd yr ŵydd ddof o'r Alarchwydd (Anser cygnoides). Erbyn hyn, ceir y ddau fath mewn rhannau eraill o'r byd.

Ymddengys fod yr ŵydd ddof yn mynd yn ôl i gyfnod cynnar iawn, ac mae tystiolaeth archaelegol o'u presenoldeb yn yr Hen Aifft 5,000 o flynyddoedd yn ôl. Maent yn fwy na'r Ŵydd Wyllt a'r Alarchwydd, gan bwyso hyd at 10 kg. Gallant ddodwy hyd at 160 ŵy mewn blwyddyn.

Gweler hefyd golygu