Ddiwedd haf arferid gyrru'r gwyddau ar hyd y ffordd i Loegr i sofla i'w paratoi i'w gwerthu ar gyfer y Nadolig.[1]

Gyrru gwyddau
Mathcludiant Edit this on Wikidata

Dyma Hugh Evans yn sôn am yr arferiad, "Gofynnid am amynedd mawr i yrru gwyddau, gan mai cerddwyr araf ac afrosgo ydynt, a threuliant lawer o amser yn clegar yn lle mynd yn eu blaenau. Clywais yr arferid eu pedoli un amser trwy roddi eu traed mewn pyg (olew du, tew) rhag iddynt frifo.

Dyma hen bennill:

Hen wraig fach yn gyrru gwyddau, ar hyd y nos,
O Langollen i Ddolgellau, ar hyd y nos,
Ac yn dwedyd wrth y llanciau,
"Gyrrwch chwi, mi ddaliaf innau!"
O Langollen i Ddolgellau, ar hyd y nos.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Cwm Eithin gan Hugh Evans, (tudalen 123), Gwasg y Brython, 1931.