Gŵyl Eira Sapporo
Gŵyl flynyddol yw Gŵyl Eira Sapporo (Japaneg: さっぽろ雪まつり Yuki Matsuri) a gynnhelir dros gyfnod o saith diwrnod ym mis Chwefror yn ninas Sapporo, Hokkaidō, Japan.
Sefydlwyd ym 1950 pan adeiladwyd chwe cerflun allan o eira gan fyfyrwyr ym Mharc Odori yng nghanol y ddinas. Erbyn heddiw, caiff tua 400 o gerfluni eu creu o gwmpas y ddinas i gynrychioli pobl enwog, cymeriadau cartŵn neu adeiladau enwog.
Yn 2007 denodd yr ŵyl dros ddau filiwn o ymwelwyr.