Japaneg

iaith swyddogol Japan gyda dros 130 miliwn o siaradwyr

Mae heddiw'n boblogaidd i gwmnïau ddefnyddio katakana i bwysleisio enw'r brand ac i greu delwedd mwy cyfoes yn hytrach na defnyddio'r kanji neu hiragana mwy traddodiadol]] Japaneg (日本語 Nihongo yn Rōmaji, Siapaneg, Siapaneeg) yw iaith swyddogol Japan gyda dros 130 miliwn o siaradwyr. Siaredir Japaneg ym Mrasil, Taiwan, Ynysoedd Marshall, Palaw, Gwam, Awstralia a'r Unol Daleithiau hefyd.

Japaneg
Enghraifft o'r canlynoliaith naturiol, iaith fyw Edit this on Wikidata
MathIeithoedd Japanaidd Edit this on Wikidata
Enw brodorol日本語 Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr 
  • 128,000,000 (2019)[1]
  • cod ISO 639-1ja Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-2jpn Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-3jpn Edit this on Wikidata
    GwladwriaethJapan Edit this on Wikidata
    System ysgrifennuKanji, Kana, Katakana, Hiragana Edit this on Wikidata
    Corff rheoleiddioKokugo Shingikai, Council for Cultural Affairs, Ministry of Education, Culture, Sports, Science and Technology, Asiantaeth Materion Diwylliannol Siapan Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
    Wikipedia
    Wikipedia
    Argraffiad Japaneg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd

    Mae dadlau ymysg ieithyddion ynglŷn â gwreiddiau'r iaith. Mae rhai yn dadlau'n gryf fod yr iaith yn perthyn i'r teulu Altaig (Altaic), sydd hefyd yn cynnwys Tyrceg a'i changhennau, Mongoleg a Choreeg. Cred ieithyddion eraill fod Japaneg yn rhannu nodweddion â llawer o ieithoedd Awstralasia, tra bod eraill yn credu ei bod hi'n iaith gyfan gwbl ar wahân.

    Er bod anghytundeb ynglŷn â gwreiddiau'r iaith, ni ellir dadlau fod dylanwad cryf wedi bod gan y Tsieineeg ar yr iaith, gyda rhai yn dadlau bod hanner geirfa'r Japaneg yn deillio o'r Tsieineeg. Mae Japaneg ddiweddar yn defnyddio cyfuniad o dair system ysgrifennu:

    • Kanji (漢字) - arwyddluniau Tsieineeg a ddaeth i Japan yn wreiddiol o Tsieina
    • Kana (かな) - yr enw ar ddwy sillwyddor a ddatblygwyd yn Japan ei hun, sef:
      • Hiragana (平仮名) - a ddefnyddir ar gyfer geiriau brodorol Japaneg
      • Katakana (片仮名) - a ddefnyddir ar gyfer geiriau tramor (yn aml Saesneg) neu i amnewid kanji neu hiragana er mwyn pwysleisio'r gair neu frawddeg.

    Mae'r wyddor Ladin, Rōmaji, yn cael ei defnyddio'n aml mewn Japaneg ddiweddar, yn enwedig ar gyfer enwau cwmnïau, hysbysebu ac wrth fewnbynnu Japaneg i mewn i gyfrifiadur.

    Yn draddodiadol, caiff yr iaith ei hysgrifennu mewn ffurf fertigol a elwir yn tategaki (縦書き) sydd yn golygu darllen fesul colofn (yn hytrach na fesul rhes), gan ddechrau ar frig y golofn ar y dde a darllen i lawr. Wedi cyrraedd gwaelod y golofn, symudir ymlaen i'r golofn nesaf sydd i'r chwith. Yn fwy diweddar defnyddir y ffurf llorweddol a elwir yn okogaki (横書き), ffurf sydd yn fwy cyffredin i Orllewinwyr sydd yn golygu darllen mewn rhesi o'r chwith i'r dde.

    Ran amlaf, defnyddir y system rifol Indo-Arabaidd gyfarwydd, yn enwedig os yw ffurf y testun yn llorweddol.

    Ymadroddion cyffredin golygu

    • Prynhawn da: こんにちは konnichiwa
    • Bore da: おはようございます ohayō gozaimasu
    • Sut wyt ti?: お元気ですか o-genki desu ka?
    • Hwyl fawr: さようなら sayōnara
    • Diolch: ありがとう arigatō
    • Japan: 日本 Nihon
    • Japaneg: 日本語 Nihongo
    • Cymru: ウェールズ Uēruzu
    • Cymraeg (iaith): ウェールズ語 Uēruzugo
    • Cymry/Cymro/Cymraes: ウェールズ人 Uēruzujin

    Llyfryddiaeth ddethol golygu

    • Kuno, Susumu. (1973). The structure of the Japanese language. Cambridge, MA: MIT Press. ISBN 0-262-11049-0.
    • Martin, Samuel E. (1975). A reference grammar of Japanese. New Haven: Yale University Press. ISBN 0-300-01813-4.
    • McClain, Yoko Matsuoka. (1981). Handbook of modern Japanese grammar: 口語日本文法便覧 [Kōgo Nihon bumpō benran]. Tokyo: Hokuseido Press. ISBN 4-590-00570-0; ISBN 0-89346-149-0.
    • Miller, Roy. (1967). The Japanese language. Chicago: University of Chicago Press.
    • Miller, Roy. (1980). Origins of the Japanese language: Lectures in Japan during the academic year, 1977-78. Seattle: University of Washington Press. ISBN 0-295-95766-2.
    • Mizutani, Osamu; & Mizutani, Nobuko. (1987). How to be polite in Japanese: 日本語の敬語 [Nihongo no keigo]. Tokyo: Japan Times. ISBN 4-7890-0338-8.
    • Shibatani, Masayoshi. (1990). Japanese. In B. Comrie (Ed.), The major languages of east and south-east Asia. Llundain: Routledge. ISBN 0-415-04739-0.
    • Shibatani, Masayoshi. (1990). The languages of Japan. Caergrawnt: Cambridge University Press. ISBN 0-521-36070-6 (hbk); ISBN 0-521-36918-5 (pbk).
    • Shibamoto, Janet S. (1985). Japanese women's language. New York: Academic Press. ISBN 0-12-640030-X.
    • Tsujimura, Natsuko. (1996). An introduction to Japanese linguistics. Cambridge, MA: Blackwell Publishers. ISBN 0-631-19855-5 (hbk); ISBN 0-631-19856-3 (pbk).
    • Tsujimura, Natsuko. (Ed.) (1999). The handbook of Japanese linguistics. Malden, MA: Blackwell Publishers. ISBN 0-631-20504-7.
      Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
      Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
    1. (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas, Texas: SIL International, 21 Chwefror 2022, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/, adalwyd 23 Ebrill 2022