GISDA

elusen Gymreig

Menter gymdeithasol yw GISDA sy'n cynnig cefnogaeth ddwys a chyfleon i bobl ifanc 14 i 25 sydd yn byw yng Ngogledd Cymru. Sefydlwyd yr elusen yn 1985 i gynnig lloches a chefnogaeth i bobl ifanc digartref yr ardal.[1]

Prosiectau yng Nghaernarfon golygu

Te a Cofi golygu

Mae'r caffi yma ar y Maes yng Nghaernarfon. Mae'n agored i'r cyhoedd ac yn hyfforddi pobl ifanc yn y maes arlwyo.

Clwb Ieuenctid LHDT+ GISDA golygu

Mae'r clwb yn gyfle i bobl ifanc rhwng oed 15 a 21 i gael hwyl, mwynhau a chyfarfod ffrindiau mewn awyrgylch hamddenol a chynhwysol. Mae'r clwb yn cyfarfod yng nghaffi Te a Cofi pob yn ail nos Lun rhwng 6-8yh.

Cyfeiriadau golygu

  1.  GISDA - Amdanon Ni. GISDA (13 Chwefror 2019).

Dolenni allanol golygu