Rhanbarth answyddogol mwyaf gogleddol Cymru yw Gogledd Cymru, sy'n ffinio â Chanolbarth Cymru i'r de a Lloegr i'r dwyrain. Mae ei ddiffiniad yn amrywio rhywfaint, ond fel arfer mae'n cynnwys Ynys Môn, Penrhyn Llŷn, ac Eryri, a'r afonydd Conwy, Clwyd, a Dyfrdwy.

Gogledd Cymru

Diffinio'r rhanbarth golygu

Yn hanesyddol, bu'r rhan fwyaf o ogledd Cymru yn rhan o Deyrnas Gwynedd. Yn weinyddol, mae'n cynnwys awdurdodau unedol Môn, Gwynedd, Conwy, Dinbych, Fflint, a Wrecsam. Mae gan y rhanbarth boblogaeth o ryw 738,000 o bobl.

Gellir ymrannu'r rhanbarth yn ddau is-ranbarth sy'n bur wahanol o ran hanes a diwylliant, er bod ganddynt llawer mewn cyffredin hefyd. Mae'r gogledd-orllewin - yn fras, siroedd traddodiadol Sir Fôn, Sir Gaernarfon a Meirionnydd - yn fwy Cymraeg na'r gogledd-ddwyrain, er bod rhannau o'r olaf, yn enwedig cefn gwlad Sir Ddinbych, yn dal yn gadarnleoedd Cymraeg. Mae'r ymraniad hwn yn hen, gyda'r gogledd-orllewin yn cyfateb yn fras i diriogaeth Gwynedd Uwch Conwy a'r gogledd-ddwyrain i'r Berfeddwlad (Gwynedd Is Conwy): mor ddiweddar â'r 19g arferai pobl gyfeirio at y gogledd gyfan fel 'Gwynedd' (cf. yn enw'r Gwyneddigion).

Unedau gweinyddol, hen a newydd golygu

Awdurdodau unedol golygu

Creuwyd yr awdurdodau unedol yn 1996.

Siroedd cadwedig golygu

Dyma'r siroedd a greuwyd yn 1974. Ers 1996 maent yn 'siroedd cadwedig' yn unig.

Siroedd gweinyddol golygu

Creuwyd y siroedd hyn dan y Ddeddf Llywodraeth Leol yn 1888. Cawsant eu seilio ar y siroedd traddodiadol, ond nid oeddynt yn union yn union yr un fath. Roedd y siroedd gweinyddol yn cael eu defnyddio ar gyfer llywodraeth leol tan 1974.

Cyfryngau lleol golygu

Radio a theledu golygu

Does dim gwasanaeth teledu rhanbarthol ar gyfer y gogledd, sy'n cael ei wasanaethu gan BBC Cymru ac ITV Wales yn Saesneg ac S4C yn Gymraeg. Mae dwy orsaf radio genedlaethol Cymru, Radio Cymru yn Gymraeg a Radio Wales yn Saesneg, ar gael trwy'r rhan fwyaf o'r gogledd, er bod anawsterau derbyn signal mewn rhai ardaloedd yn y bryniau.

Mae gorsafoedd radio annibynnol yn y rhanbarth yn cynnwys: Marcher Sound (Wrecsam, Sir y Fflint), Coast 96.3 (arfordir y gogledd, ond heb gynnwys y gorllewin eithaf) a Champion 103 (Audurdodau unedol Gwynedd a Môn). Yn ogystal gellir gwrando Radio Maldwyn (a fwriedir ar gyfer Sir Drefaldwyn) yn ardal Wrecsam.

Rhyngrwyd golygu

Fel rhan o'i brif safle, mae gan BBC Cymru/BBC Wales ddwy adran 'Lleol i Mi' o dudalennau newyddion a gwybodaeth leol ar gyfer y gogledd-orllewin a'r gogledd-ddwyrain, yn y Gymraeg a'r Saesneg. Maent yn cynnwys tudalennau ar rai trefi a phentrefi lle gall pobl leol gyfrannu straeon a phytiau gwybodaeth.

Y wasg golygu

Y prif bapur newydd yw'r Daily Post (Saesneg gydag atodiad Cymraeg wythnosol), sy'n galw ei hun "the paper for North Wales". Ceir nifer o bapurau bro yn lleol, yn eu mysg Y Pentan (Dyffryn Conwy a'r glannau), Llanw Llŷn (Penrhyn Llŷn), Y Ffynnon (Eifionydd). Yn ogystal ceir sawl papur Saesneg wythnosol, yn cynnwys y North Wales Weekly News.

Gweler hefyd golygu


Rhanbarthau Cymru  
Canolbarth | De | Gogledd | Gorllewin