GWCCI
Mae GWCCI yn fand rap Cymraeg dienw.
Enghraifft o'r canlynol | grŵp rap |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dechrau/Sefydlu | 2023 |
Am y grwp
golyguMae aelodau’r band yn cuddio eu hunaniaeth gan ddefnyddio masgiau, hetiau bwced a sbectol haul ac yn chwarae amrywiaeth o genres gwahanol sy'n amrywio o techno, bassline, RNB, trap, dril a drwm a bas.
Bu eu gigs yn 2023 yn cynwys Tafwyl a Dawns Haf Abertawe.
Rheolir y band label recordio cerddoriaeth Gymraeg Recordiau BICA Records – hefyd yn rhyddhau fideo sinematig ar gyfer y gân y mae sôn ei bod yn torri tir creadigol newydd yn y sin gerddoriaeth Gymraeg.[1]
Traciau
golyguRhyddahodd FRMAND drac o'r enw 'Cyfrinach' gan gynnwys GWCCI a jardinio ar 3 Mawrth 2023.[2]
Rhyddahwyd sengl newydd 'HOTEL' ar 2 Mehefin 2023. Mae trac 'CANNA' yn disgrifio bywyd Pontcanna gyda fideo cerddoriaeth a saethwyd yno.[1]
Rhyddhawyd y trac 'Tân' ar 4 Awst 2023 gan gyfeirio at anghyfiawnder ail dai yng Nghymru gan gyfeirio at y gân Tân yn Llŷn gan Plethyn.[3]
Ar 15 Medi 2023, rhyddhaodd y band y gân 'I'r GÂD' i dîm rygbi Cymru gan gyfeirio at hanes Cymru.[4] Bu Josh Adams a Taine Basham yn canmol y gân fel rhan o bwyllgor cerddoriaeth carfan rygbi Cymru.[5]
Yn 2024, rhyddhaodd y band eu halbwm cyntaf 'Gafr'.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Price, Emily (2023-05-31). "Secretive masked Welsh rappers to release new single". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-11-24.
- ↑ Selar, Y. (2023-03-03). "FRMAND yn rhannu 'Cyfrinach' gyda Jardinio a Gwcci". Y Selar. Cyrchwyd 2024-11-24.
- ↑ Selar, Y. (2023-08-09). "Gwcci yn troi'n wleidyddol gyda Tân". Y Selar. Cyrchwyd 2024-11-24.
- ↑ "Y band dirgel a'u cân rap i dîm rygbi Cymru". BBC Cymru Fyw. 2023-09-15. Cyrchwyd 2024-11-24.
- ↑ Chapman, Anna (2023-09-08). "Welsh artist GWCCI lead Wales 'into the fray' with their latest single, 'I'r gâd' - Welsh Rugby Union". Welsh Rugby Union | Wales & Regions (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-11-24.
- ↑ Selar, Y. (2024-07-19). "Rhyddhau albwm cyntaf Gwcci". Y Selar. Cyrchwyd 2024-11-24.