Plethyn
Grŵp canu gwerin Cymraeg yw Plethyn a oedd yn eu hanterth rhwng 1978 ac 1995. Yr aelodau yw Roy Griffiths, Linda Healy a John Gittins. Brawd a chwaer ydy Roy a Linda, gyda John Gittins wedi ei eni ar fferm, ger Meifod ym Maldwyn.[1]
Enghraifft o'r canlynol | band ![]() |
---|---|
Gwlad | y Deyrnas Unedig ![]() |
Mae eu harddull yn dangos dylanwad canu plygain yr ardal honno: cynghanedd (neu harmoni) glós, syml. Maent wedi poblogeiddio nifer o ganeuon gwerin yn ogystal â chreu caneuon newydd ar arddull draddodiadol. Y dylanwad pennaf ar y grwp oedd Elfed Lewys.