Gair cyrch
Mewn englyn, mae'r gair cyrch (neu eiriau cyrch) yn dilyn y gwant yn y llinell gytaf. Er enghraifft, yn yr englyn canlynol i'r "Gorwel" gan Dewi Emrys, y gair cyrch yw'r geiriau "o'n cwmpas".
Wele rith fel ymyl rhod – o'n cwmpas
Campwaith dewin hynod;
Hen linell bell nad yw'n bod,
Hen derfyn nad yw'n darfod.
Mae'r gair cyrch yn cynganeddu gyda chychwyn yr ail linell.