Dewi Emrys

gweinidog (A), llenor a bardd

Bardd o Dde-Orllewin Cymru oedd Dewi Emrys (David Emrys James; 28 Mai 188120 Medi 1952). Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith, ac yn sgil ei lwyddiant yn y gystadleuaeth newidiwyd rheolau'r Eisteddfod i atal beirdd rhag ennill y Gadair na'r Goron fwy na dwywaith.[1]

Dewi Emrys
Portread Dewi Emrys o'i lyfr Cerddir'r Bwthyn (1948)
FfugenwDewi Emrys Edit this on Wikidata
Ganwyd28 Mai 1881 Edit this on Wikidata
Ceinewydd Edit this on Wikidata
Bu farw20 Medi 1952 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol yr Hen Coleg Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Bywyd Cynnar golygu

Ganed David Emrys James yn Majorca House, Ceinewydd, Ceredigion ar 28 Mai 1881. Ei dad oedd y Parch Emrys James. Pan oedd Dewi yn wyth oed, symudodd y teulu i Rosycaerau, Sir Benfro, ac yno y treuliodd Dewi flynyddoedd ei ieuenctid cynnar. Aeth i'r ysgol ym Mhencaer ac Ysgol Ramadeg Jenkins Abergwaun cyn mynd fel prentis newyddiadurwr a chysodwr ar y County Echo yn y dre honno. Ar ôl marwolaeth ei dad, symudodd y teulu i Gaerfyrddin ac aeth Dewi i weithio ar y Carmarthen Journal. Yn 1903, fodd bynnag, aeth i Goleg Presbyteraidd a dilyn llwybr ei dad i'r weinidogaeth.

Dewi'r Pregethwr golygu

Ar ôl cyfnod fel gweinidog yn Nowlais derbyniodd Dewi alwad gan Eglwys Saesneg Bwcle, Sir y Fflint, yn 1908 Yn yr un flwyddyn, priododd â Cissie Jenkins, merch o Gaerfyrddin. Ym Mwcle ganwyd dau fab i'r teulu, Alun a Gwyn. Yn 1911, symudodd y teulu i Bontypridd. Yno cyrhaeddodd Dewi ei binacl fel pregethwr, ac ennill enw iddo'i hun drwy Gymru fel pregethwr penigamp, ond yna hefyd dechreuodd y problemau ariannol a phersonol a fyddai'n ei ddilyn am weddill ei oes. Ar ôl i'r teulu symud i Llundain yn 1915 aeth y problemau yn drech na Dewi, a gadawodd ei deulu a'i eglwys yn 1917 gan ymuno â'r fyddin.

Y Bardd a'r Crwydyn golygu

Ar ôl y Rhyfel Mawr, ceisiodd Dewi wneud bywoliaeth o'i newyddiaduriaeth drachefn. Er iddo werthu sawl darn i olygyddion Stryd y Fflyd, aeth pethau o chwith iddo, a threuliodd sawl noson dan y sêr ar lannau Tafwys. Cefnodd Cymry Llundain arno, y cyn-bregethwr a oedd erbyn hyn i'w weld yn canu y tu allan i'r eglwysi, a'i gap yn ei ddwylo.

Yn 1926, fodd bynnag, daeth tro ar fyd i Dewi, pan enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe gyda chasgliad o gerddi Rhigymau'r Ffordd Fawr. Yn yr un Eisteddfod, enillodd ar gystadleuaeth Darn o Farddoniaeth mewn tafodiaith gyda'r gerdd a fyddai'n dod yn un o'i weithiau mwya adnabyddus, "Pwllderi". Yn sgil ei lwyddiant, daeth ei wraig i chwilio amdano yn Abertawe, gan fod Dewi heb dalu tuag at gynnal ei deulu ers blynyddoedd. Fel canlyniad bu rhaid i Ddewi roi'r arian a enillwyd yn yr Eisteddfod i Cissie, casglu mwy gan ei ffrindiau, a hyd yn oed rhoi ei goron newydd mewn pawn shop yn Abertawe.[2]

Aeth Dewi Emrys ymlaen i ennill y Gadair yn y Genedlaethol bedair gwaith, yn Lerpwl, 1929 ("Dafydd ap Gwilym"), Llanelli, 1930 ("Y Galilead"), Bangor, 1943 ("Cymylau amser"), a Phen-y-bont ar Ogwr 1948, ("Yr alltud").[3]

Aeth Dewi Emrys i fyw, gyda'i ferch Dwynwen, yn "Y Bwthyn", Talgarreg, Sir Aberteifi yn 1941 ac yn y fan honno y treuliodd weddill ei oes. Bu farw yn Aberystwyth ym mis Medi, 1952, a chafodd ei gladdu ym mynwent Capel Pisgah, ar bwys Talgarreg. Dywedodd ei gyfaill, y Prifardd T. Llew Jones am yr achlysur:

Bu farw Dewi Emrys yn ysbyty Aberystwyth ar Fedi'r 20fed 1952 a chladdwyd ef ym mynwent Pisgah, Talgarreg. Ychydig iawn o bobl a welodd yn dda i ddod i'r angladd. Yn wir, roedd y capel yn hanner gwag.[1]

Llyfryddiaeth golygu

 

Barddoniaeth

  • Rhigymau'r ffordd fawr (1926)
  • Rhymes of the road (1928) (yn Saesneg)
  • Y Cwm Unig (1930)
  • Cerddi'r Bythyn (1948)

Eraill

  • Odl a Chynghanedd (1937)
  • Beirdd y Babell (gol.), (1939)

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 ""DEWI EMRYS JAMES (1881-1952)", Seren Tan Gwmwl (dim dyddiad)" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2005-05-01. Cyrchwyd 2005-05-01.
  2. Dewi Emrys, Eluned Phillips
  3. Y Bywgraffiadur Ar-lein, Llyfrgell Genedlaethol Cymru