Grŵp gwerin/pop o dref Caerfyrddin oedd Galwad y Mynydd. Fe'i ffurfiwyd gan bedwar aelod o Aelwyd yr Urdd Caerfyrddin yn 1971, sef Derec Brown (gitâr, organ geg, llais); Alwyn Daniels (gitar, llais); Eifion Daniels (gitâr fas, llais) a Mike Harries (drymiau). Derec Brown a ysgrifennai'r caneuon. Cafwyd yr enw Galwad y Mynydd o deitl llyfr gan Ioan Bowen Rees.

Galwad y Mynydd
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Ar ôl i'r grŵp ryddhau dwy EP feinyl aeth Derec Brown yn ei flaen i fod yn aelod o Hergest a Cwrwgl Sam, ac yna i arwain ei fand roc ei hun, Derec Brown a'r Racaracwyr. Yn 2007 rhyddhawyd y caneuon cynnar ar grynoddisg gan label Finders Keepers. Mae'r nodiadau llawes yn cynnwys gair o werthfawrogiad gan y cerddor Gruff Rhys (mab Ioan Bowen Rees) a hanes manwl y grŵp gan Derec Brown. Yn 2011 daeth y pedwar at ei gilydd eto i recordio 10 o ganeuon newydd i Recordiau Fflach.

Disgyddiaeth golygu

  • Galwad y Mynydd (EP 7", Recordiau'r Dryw, WRE1128, 1972)
  • Merch yn Eistedd ar y Bryn (EP 7", Recordiau'r Dryw, WRE1137, 1973)
  • Galwad y Mynydd (Albwm, Finders Keepers Records, FKR015CD, 2007)
  • Galw Eto (Albwm, Recordiau Fflach, Fflach CD338N, 2011)