Gruff Rhys

cyfarwyddwr ffilm a aned yn Hwlffordd yn 1970

Prif leisydd a gitarydd y band Super Furry Animals yw Gruffydd Maredudd Bowen Rhys (ganwyd 18 Gorffennaf 1970). Cafodd ei eni yn Hwlffordd, yn fab i Ioan Bowen Rees, ond symudodd y teulu i Rachub, ger Bethesda yn 1974. Mynychodd Gruff Ysgol Dyffryn Ogwen ym Methesda.

Gruff Rhys
Gruff Rhys yn 2015
Y Cefndir
Ganwyd (1970-07-18) 18 Gorffennaf 1970 (53 oed)
Hwlffordd, Sir Benfro
TarddiadBethesda
GwaithCerddor, cyfansoddwr caneuon, gwneuthurwr ffilm, awdur, cynhyrchydd
Offeryn/nauGitâr, llais, allweddellau, harmonica, drymiau
Cyfnod perfformio1988–presennol
LabelTurnstile, Rough Trade, Team Love
Perff'au eraillSuper Furry Animals
Ffa Coffi Pawb
Neon Neon
Gwefangruffrhys.com

Mae ganddo steil unigryw o chwarae'r gitâr. Mae'n chwarae â'i law chwith, ond am iddo ddysgu chwarae ar gitâr llaw dde ei frawd, gesyd ei dannau yn y drefn honno (fel arfer bydd pobl llaw chwith yn newid trefn y tannau i hwyluso'r chwarae).

Ysgrifennodd ganeuon pan oedd yn ifanc iawn. Bu'n ddrymiwr yn y band Emily a Ffa Coffi Pawb cyn ffurfio'r grŵp Super Furry Animals, ar ôl mudo i dde Cymru.

Creodd y ffilm a phrosiect aml-blatfform I Grombil Cyfandir Pell am ei daith i'r Unol Daleithiau yn 2012.[1][2]

Gruff, ar y llwyfan gyda'r band Mogwai yn yr Alban yn 2001

Gyrfa golygu

Arferai Gruff Rhys chwarae yn yr un band â chanwr Celt, Martin Beattie, ym Methesda yn ei arddegau ond daeth i amlygrwydd yn nes ymlaen fel prif leisydd Ffa Coffi Pawb.

Ar ôl arwyddo i label Ankst, fe ddaeth Ffa Coffi yn un o brif fandiau Cymru gan ryddhau tair albwm - Clymhalio, Dalec Peilon a Hei Vidal. Pan chwalodd y grŵp yn 1993, aeth Gruff i astudio celf yn Barcelona am gyfnod cyn mynd ati gyda'r drymiwr Dafydd Ieuan o Roscefnhir i ffurfio'r Super Furry Animals. Aelodau'r grŵp bellach ydy Gruff y lleisydd, Dafydd ar y drymiau, Cian Ciaran, brawd Dafydd ar yr allweddellau, Huw 'Bunf' Bunford ar y gitâr a Guto Pryce ar y gitâr fâs.

Yn 1995, fe arwyddodd y band i label Creation Records. Yn ôl y stori, gofynnodd Alan McGee, pennaeth y cwmni, iddyn nhw ganu mwy o ganeuon yn Saesneg ar ôl bod yn eu gwylio'n perfformio - heb ddeall eu bod nhw wedi canu pob cân yn Saesneg. Fe wnaethon nhw'n siwr wrth arwyddo fod eu cytundeb yn cynnwys diwrnod o wyliau ar Ddydd Gŵyl Ddewi bob blwyddyn.

Rhyddhawyd eu halbwm gyntaf, Fuzzy Logic, yn 1996 - yr albwm gyntaf i Gruff ganu yn Saesneg arni. Wedi llwyddiant Fuzzy Logic aeth SFA ymlaen i fod yn un o fandiau mwyaf cynhyrchiol, creadigol a hirymarhous y sîn. Gyda sawl EP ac albwm Saesneg y tu ôl iddyn nhw erbyn hyn, fe wnaethon nhw hefyd gyhoeddi albwm Gymraeg hynod lwyddiannus, Mwng, yn 2000.

Ar ddechrau eu gyrfa roedd y band yn enwog am sawl rheswm heblaw eu cerddoriaeth fel yr eirth 40 troedfedd a'r tanc glas a ddefnyddiwyd ar eu teithiau cynnar ac am rannu llwyfan gyda dau 'ieti' cynoesol.

Yn 2003 daeth Gruff nôl i dref ei fagwraeth gyda'r Super Furries i gymryd rhan yng ngŵyl Pesda Roc, atgyfodiad o wyliau llai yr 80au yn y dref i ddathlu canmlwyddiant diwedd Streic Fawr y Penrhyn.

Ym mis Ionawr 2005, recordiodd ei albwm unigol gyntaf, yr Atal Genhedlaeth, gan berfformio ar ei ben ei hun, ynghyd ag Alun Tan Lan a phrosiect Kerdd Dant ar daith o amgylch theatrau Cymru i'w hyrwyddo. Ers hynny, mae wedi rhyddhau pedair albwm unigol arall sef Candylion, Hotel Shampoo, American Interior a Babelsberg, ac mae wedi cydweithio gyda nifer o fandiau ac artistiaid eraill, yn ogystal â pharhau i recordio a rhyddhau sawl albwm gyda'r Super Furry Animals. Mi wnaeth hefyd ffurfio'r band Neon Neon, ac mae wedi sefydlu label recordio o'r enw Irony Bored, sef y label wnaeth ryddhau albwm cyntaf Cate Le Bon.

Ym mis Hydref 2011, cyhoeddwyd mai Rhys oedd wedi ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymraeg newydd am ei albwm boblogaidd, 'Hotel Shampoo'.

Yn 2016 fe ryddhaodd label Finders Keepers yr albwm Set Fire to the Stars, trac sain i ffilm o'r un enw am Dylan Thomas yn ymweld a Efrog Newydd yn 1950. Fe berffomiodd yr albwm yn fyw yn Glasgow, Manceinion, Hull, Llundain a Caerdydd. Yng Nghaerdydd roedd perchennog label Finders Keepers, Andy Votel, yn dj'o cyn y gig, yn y Theatr Newydd.

Disgograffi golygu

Albymau stiwdio golygu

Blwyddyn Manylion Safle uchaf siart
Siart Albwm y DU[3]
2005 Yr Atal Genhedlaeth
  • Rhyddhawyd: 25 Ionawr 2005
  • Label: Placid Casual
2007 Candylion
  • Rhyddhawyd: 8 Ionawr 2007
  • Label: Rough Trade Records
50
2011 Hotel Shampoo
  • Rhyddhawyd: 14 Chwefror 2011
  • Label: Ovni Records
42
2014 American Interior
  • Rhyddhawyd: 5 Mai 2014
  • Label: Turnstile
24
2018 Babelsberg
  • Rhyddhawyd: 8 Mehefin 2018
  • Label: Rough Trade Records
23
2019 Pang!
  • Rhyddhawyd: 2019
  • Label: TBC
23
"—" yn dynodi albwm na gyrhaeddodd y siart.

Cyfeiriadau golygu

  1. http://www.s4c.cymru/americaninterior/c_index.shtml
  2. https://s4c.cymru/c_press_level2.shtml?id=1060
  3. "GRUFF RHYS | Artist". Official Charts. Cyrchwyd 16 June 2018.

Dolenni Allanol golygu