Gandhinagar
Prifddinas talaith Gujarat yn India yw Gandhinagar (Gujarati: ગાંધીનગર ). Fe'i lleolir tua 23 km i'r gogledd o Ahmedabad, dinas fwyaf Gujarat, tua hanner ffordd ar y coridor diwydiannol sy'n cysylltu Delhi, prifddinas India, a Mumbai, 464 km i'r gorllewin. Mae'n ddinas newydd gynlluniedig sydd wedi'i henwi ar ôl Mahatma Gandhi (ystyr nagar yw 'dinas').
![]() | |
Math | dinas, dinas fawr ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Mahatma Gandhi ![]() |
Poblogaeth | 195,891 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+05:30 ![]() |
Gefeilldref/i | Dubai ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gandhinagar district ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 177 km² ![]() |
Uwch y môr | 81 ±1 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 23.223°N 72.65°E ![]() |
Cod post | 382010 ![]() |
![]() | |

Gorwedd y ddinas newydd ar lan orllewinol Afon Sabarmati. Rhennir y ddinas yn 30 ardal neu sector sy'n ymestyn mewn cylch o gwmpas canolfan Llywodraeth Gujarat. Mae gan pob un o'r ardaloedd hyn ei chanolfannau siopio a chymuned ei hun ynghyd ag ysgol gynradd, canolfan iechyd a thai preifat a chyhoeddus. Ceir nifer o barciau yn y ddinas, yn enwedig ar lan Afon Sabarmati, sy'n creu awyrgylch 'dinas gerddi'.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol y ddinas