Gujarat
Mae Gujarat (Gujarati: ગુજરાત [ɡudʑəraːt̪) yn dalaith yng ngorllewin India. Mae'n ffinio ar Pacistan yn y gorllewin, Rajasthan yn y gogledd-ddwyrain, Madhya Pradesh yn y dwyrain a Maharashtra a Diu, Daman a Dadra a Nagar Haveli yn y de.
![]() | |
![]() | |
Math | talaith India ![]() |
---|---|
Prifddinas | Gandhinagar ![]() |
Poblogaeth | 60,383,628 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Bhupendrabhai Patel ![]() |
Cylchfa amser | Indian Standard Time ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | India ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 196,024 ±1 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Madhya Pradesh, Maharashtra, Rajasthan, Dadra a Nagar Haveli, Daman and Diu, Sindh ![]() |
Cyfesurynnau | 23.22°N 72.655°E ![]() |
IN-GJ ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Council of Ministers of Gujarat ![]() |
Corff deddfwriaethol | Gujarat Legislative Assembly ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Om Prakash Kohli ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Chief Minister of Gujarat ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Bhupendrabhai Patel ![]() |
![]() | |
Gujarat yw'r fwyaf diwydiannol o daleithiau India, ac mae'n gyfrifol am 19.8% o holl gynnyrch diwydiannol y wlad. Mae incwm y pen yn 2.47 gwaith y cyfartaledd i India gyfan. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 50,596,992.
Y brifddinas yw Gandhinagar, dinas wedi ei chynllunio'n bwrpasol ac wedi ei henwi ar ôl yr enwocaf o feibion Gujarat, Mahatma Gandhi. Y ddinas fwyaf yn y dalaith yw Ahmedabad. Iaith swyddogol y dalaith yw Gujarati, ac mae'r mwyafrif o'r trigolion yn ddilynwyr Hindwaeth.
Yn Ionawr 2001 effeithiwyd ar Gujarat gan ddaeargryn mawr, a laddodd tua 10,000 o bobl.