Gaston Miron
Bardd a golygydd llenyddol o Québec oedd Gaston Miron (8 Ionawr 1928 – 14 Rhagfyr 1996). Fe'i ystyrir gan amryw yn "fardd cenedlaethol" Québec ac yn un o gonglfeini llenyddol y symudiad cenedlaetholgar cyn, ac yn ystod, y Chwyldro Tawel (Révolution Tranquille). Mae ei gyfrol mwyaf nodedig, "L’homme rapaillé", a gyhoeddwyd yn 1970, wedi gwerthu mwy na chan mil copi.
Gaston Miron | |
---|---|
Ganwyd | 8 Ionawr 1928 Sainte-Agathe-des-Monts |
Bu farw | 14 Rhagfyr 1996 Montréal |
Man preswyl | Montréal |
Dinasyddiaeth | Canada |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd |
Arddull | barddoniaeth |
Priod | Marie-Andrée Beaudet |
Gwobr/au | Commandeur des Arts et des Lettres, Gwobr Molson, Gwobr Roger Nimier, Gwobr Québec-Paris, Swyddog o Urdd Genedlaethol Quebec, Gwobr Llenyddol Cymuned Canada-Ffrengig, Gwobr Athanase-David, Prize of the Magazine Études françaises, Prix Guillaume Apollinaire |
Llyfryddiaeth
golygu- Deux sangs (casgliad o gerddi Gaston Miron ac Olivier Marchand), Montréal, Éditions de l’Hexagone, 1953.
- L’homme rapaillé, Montréal, Gwasg Prifysgol Montréal, 1970.
- Courtepointes, Ottawa, Gwasg Prifysgol Ottawa, 1975.
- Poèmes épars, casgliad o ysgrifau a cherddi rhwng 1947 a 1995, dan olygyddiaeth Marie-Andrée Beaudet a Pierre Nepveu, Montréal, Éditions de l’Hexagone, 2003.
- Un long chemin (d’autres proses), casgliad o ysgrifau mewn rhyddiaith, dan olygyddiaeth Marie-Andrée Beaudet a Pierre Nepveu, Montréal, Éditions de l’Hexagone, 2004.