Gavrilo Princip
Llofrudd yr Archddug Franz Ferdinand a'i wraig Sofía Chotek oedd Gavrilo Princip (25 Gorffennaf 1894 - 28 Ebrill 1918). Trwy hyn, dechreuodd y gyfres o ddigwyddiadau a arweiniodd at ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.
Gavrilo Princip | |
---|---|
Ganwyd | 13 Gorffennaf 1894 (yn y Calendr Iwliaidd) Obljaj |
Bu farw | 28 Ebrill 1918 Malá pevnost |
Man preswyl | Sarajevo |
Dinasyddiaeth | Awstria-Hwngari |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwyldroadwr |
Perthnasau | Slobodan Princip |
Llinach | Q31182974 |
llofnod | |
Ganed Princip yn Obljaj, Bosnia-Hertsegofina. Roedd yn aelod o'r cylch "Bosnia Ieuanc", oedd dan reolaeth "Y Llaw Ddu", plaid oedd yn dymuno uno Bosnia gyda Serbia. Ar 28 Mehefin 1914, roedd yr Archddug Franz Ferdinand, aer coron ymerodraeth Awstria-Hwngari, yn ymweld â Sarajevo. Saethwyd ef a'i wraig gan Princip, a buont farw yn fuan wedyn.
Ceisiodd Princip ei ladd ei hun, ond methodd, a chymerwyd ef i'r ddalfa gan yr heddlu. Dedfydwyd ef i garchar am oes, a bu farw o'r diciâu yng ngharchar yn 1918.