Gweriniaeth yn ne-ddwyrain Ewrop yw Gweriniaeth Serbia neu Serbia. Mae'n ffinio â Hwngari i'r gogledd, Rwmania a Bwlgaria i'r dwyrain, Gogledd Macedonia ac Albania i'r de a Montenegro, Bosnia-Hertsegofina a Croatia i'r gorllewin. Er fod y wlad yn fechan, llifa afon fwyaf yr Undeb Ewropeaidd sef y Danube drwyddi am 21% o'i hyd cyfan. Mae Belgrade sef prifddinas Serbia, yn un o ddinas mwyaf poblog de-ddwyrain Ewrop.

Serbia
''Република Србија
Republika Srbija''
Mathgwladwriaeth sofran Edit this on Wikidata
PrifddinasBeograd Edit this on Wikidata
Poblogaeth7,022,268 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 2006 Edit this on Wikidata
AnthemBože pravde Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAna Brnabić Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Serbeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolpost-Yugoslavia states Edit this on Wikidata
Arwynebedd88,499 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaHwngari, Rwmania, Bwlgaria, Gogledd Macedonia, Montenegro, Bosnia a Hertsegofina, Croatia, Albania, Cosofo, yr Undeb Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.95°N 20.93°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Serbia Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynulliad Cenedlaethol Serbia Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Serbia Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethAleksandar Vučić Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Serbia Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAna Brnabić Edit this on Wikidata
Map
Delwedd:LocationSerbia.svg
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$63,082 million, $63,502 million Edit this on Wikidata
Ariandinar (Serbia) Edit this on Wikidata
Canran y diwaith22 ±1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.43 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.802 Edit this on Wikidata

Roedd Serbia'n rhan o Deyrnas Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid o 1918 i 1941 (Teyrnas Iwgoslafia wedi 1929), Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia o 1945 i 1992, Gweriniaeth Ffederal Iwgoslafia o 1992 i 2003 a Serbia a Montenegro o 2003 i 2006.

Ym mis Chwefror 2008, datganodd senedd Kosovo, sef talaith ddeheuol Serbia gyda mwyafrif ethnig Albaniaid eu hannibyniaeth. Cymysg fu ymateb y gymuned rhyngwladol at Kosovo. Mae Serbia'n ystyried Kosovo fel talaith hunan-lywodraethol a reolir gan genhedaeth yr Cenhedloedd Unedig sef Cenhedaeth Gweinyddiaeth Interim y Cenhedloedd Unedig yn Kosovo

Mae Serbia'n aelod o'r Cenhedloedd Unedig, Cyngor Ewrop, Mudiad Cydweithrediad Economaidd y Môr Du a bydd yn llywyddu dros Cytundeb Masnach Rydd Canolbarth Ewrop yn 2010. Categorïr Serbia yn economi datblygol gan yr International Monetary Fund ac yn economi incwm canol-uwch gan Fanc y Byd.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Serbia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.