Geirfa cudd-wybodaeth

A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I J L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y

C golygu

Crynodeb cudd-wybodaeth
Cynnyrch cudd-wybodaeth filwrol ar ffurf adroddiad syml o fanylion y gelyn, gan gynnwys ei leoliad, nerth, trefniant, ac amcanion, ar gyfer cyfnod penodol o amser.
Cylchred cudd-wybodaeth
Cysyniad sydd yn disgrifio cylchred prosesu cudd-wybodaeth drwy gamau pennu gofynion, casglu, prosesu, dadansoddi, a phenderfynu.

D golygu

Dadansoddi cudd-wybodaeth
Y broses o ddadansoddi gwybodaeth o bwys strategol, ymgyrchol, neu dactegol.

G golygu

Gweithredu cudd
Gweithgareddau sydd yn rhoi pwysau ar lywodraeth dramor heb i'r llywodraeth honno wybod ffynhonnell y pwysau; propaganda, parafilwriaeth, rhyfela gwybodaeth, a ballu.
Gwrth-ysbïwriaeth
Amddiffyn medrau cudd-wybodaeth y wladwriaeth rhag gweithgareddau cudd-wybodaeth y gelyn.

Y golygu

Ysbïo, ysbïwriaeth
Casglu cudd-wybodaeth heb ganiatâd perchennog y wybodaeth.

Cyfeiriadau golygu