Dyma eirfa o dermau morwrol.


A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I J L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y

B golygu

brig-hwyl

Un o'r hwyliau uchaf.

C golygu

corff

Corff y llong.

Ff golygu

fforcas

Caban ar ben blaen y llong.

H golygu

hwylbren

Polyn hir a osodir yn unionsyth mewn llong i gynnal yr hwyliau a'r rigin.

hwylbren blaen

Yr hwylbren sydd agosaf at ben blaen y llong.

hwylbren y llyw

Yr hwylbren sydd agosaf at ben ôl y llong.

P golygu

pedryfwrdd

Rhan o fwrdd uchaf y long tua'r starn, a neilltuir fel arfer i'r swyddogion.[1]

pen trawst

Lled y llong ar ei lletaf.

polyn blaen

Polyn yn ymestyn allan o ben blaen y llong i sicrhau rhaffau wrtho er mwyn cynnal yr hwylbren blaen.

prif hwylbren

Yr hwylbren hiraf, fel arfer yr hwylbren yng nghanol y llong.

R golygu

rigin

Y rhaffau, cadwyni ac ati ar long ar gyfer cynnal a rheoli'r hwyliau.

rigin sgwâr

Rigin gyda'r hwyliau yn berpendicwlar i feingil ac hwylbrenni'r llong.

rigin trisgwar

Rigin gydag hwyliau trionglog.

S golygu

starncas

Caban ar ben ôl y llong.

Cyfeiriadau golygu

  1.  pedryfwrdd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 11 Hydref 2023.