Ffilm animeiddiedig Gymraeg ydy Gelert (2007). Hywel Griffith oedd y cyfarwyddwr.

Gelert
Cyfarwyddwr Hywel Griffith
Cynhyrchydd Hywel Griffith
Ysgrifennwr Mei Jones
Cerddoriaeth Jody K. Jenkins
Golygydd Meilyr Tomos
Sain Tim Ricketts
Owen Thomas
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Griffilms
Dyddiad rhyddhau 25 Rhagfyr 2007
Amser rhedeg 25 munud
Gwlad Cymru
Iaith Cymraeg

Crynodeb golygu

Defnyddir y chwedl hanesyddol boblogaidd o Dywysog Llywelyn a'i gi Gelert i ddehongli pwysigrwydd cyfeillgarwch a ffyddlondeb ynghyd â'r perygl o ddicter a diffyg meddwl.

Mae'r ddyfais o stori tu fewn i stori yn cysylltu cymeriadau'r hogyn a'i gi dros amser (Llew/Gel yn y presennol, Llywelyn/Gelert yn hanesyddol). Trwy glywed am hanes trist Llywelyn Tywysog Gwynedd yn lladd Gelert trwy gamddealltwriaeth, mae'r hogyn ifanc Llew yn dysgu'r pwysigrwydd o werthfawrogi ei gi, Gel.

Animeiddiad uchelgieisol sy'n cynnwys golygfeydd cefndirol CGI gyda 600 o olygfeydd. Mae Gelert yn enghraifft dda o'r cryn gynnydd yn safon animeiddio yn y diwydiant Cymreig.

Cast a chriw golygu

Prif gast

Cast cefnogol

  • Richard Elfyn (Canghellor, Eraill)
  • Hefin Wyn (Brenin Iorwerth, Eraill)
  • Elen Gwynne (Gwen)
  • Llyr Evans (Owain/Ifan)

Animeiddwyr

  • Dylan Jones
  • Eryl Lewis Jones
  • Ryan Perrin
  • Owain Roberts
  • James White

Manylion technegol golygu

Tystysgrif Ffilm: U
Fformat Sain: Stereo
Lliw/Du a Gwyn: Lliw

Llyfryddiaeth golygu

Erthyglau cylchgrawn/papur newydd
  • Daily Post, 10 Rhagfyr 2008;
  • Sgrin (Cylchgrawn Gwylwyr S4C) Rhif 5, 2007

Dolenni allanol golygu

  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Gelert ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.