Mei Jones
Actor a sgriptiwr o Gymru oedd Mei Jones (Chwefror 1953 – 5 Tachwedd 2021).[1][2] Cyd-greoedd y gyfres C'mon Midffild! gyda Alun Ffred Jones, a darlledwyd tair cyfres ar y radio cyn trosglwyddo yn llwyddiannus i deledu. Roedd perfformiad Mei fel y cymeriad hoffus Wali Thomas yn un o'r creadigaethau comedi mwyaf poblogaidd erioed yn y Gymraeg.
Mei Jones | |
---|---|
Ganwyd | Henryd Myrddin Jones Chwefror 1953 Llanddona |
Bu farw | 5 Tachwedd 2021 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor teledu, sgriptiwr, actor llwyfan |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguMagwyd Henryd Myrddin Jones ar dyddyn yn Llanddona, Ynys Môn, cyn i’r teulu symud i Lanfairpwll. Yn blentyn roedd yn bêl-droediwr talentog a chafodd ei dderbyn i garfan dan-18 Cymru tra'n dal yn ddisgybl ysgol. Bu'n chwarae i dîm Biwmares, Amlwch, Bangor ac yn gôl-geidwad i dîm Llanrug.[3]
Aeth i Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy, cyn mynychu Coleg y Brifysgol, Aberystwyth gan ddilyn cwrs mewn diwinyddiaeth. Yn y cyfnod yma daeth yn un o aelodau gwreiddiol y grŵp Mynediad am Ddim. Bu'n chwarae i glwb pêl-droed Pontrhydfendigaid yn ystod ei ddyddiau coleg yn Aberystwyth.[4] Aeth ymlaen i gwrs drama Cymraeg yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd.
Gyrfa
golyguBu'n actio, sgriptio a chyfarwyddo ers 1976. Dechreuodd ei yrfa gyda Chwmni Theatr Cymru cyn dod yn un o aelodau cyntaf Theatr Bara Caws. Ar y radio, bu’n rhan o dîm Pupur a Halen ac Wythnos i’w Anghofio, ac yna fe sgriptiodd, actiodd a chyfarwyddodd wyth cyfres, un ffilm a sioe lwyfan o C'mon Midffild!. Enillodd Mei ac Alun Ffred Jones wobr 'Yr Awdur Gorau Ar Gyfer Y Sgrin - Cymreig' BAFTA Cymru ar gyfer C'mon Midffild! yn 1992.[5]
Yn ystod yr 1980au bu'n actio mewn sawl cyfres ddrama yn cynnwys Wastad ar y Tu Fas, Hufen a Moch Bach, Anturiaethau Dic Preifat ac Wyn i'r Lladdfa. Sgriptiodd y cyfresi drama Deryn a Cerddwn Ymlaen ar y cyd gyda Meic Povey.[6]
Yn 2008 fe’i comisiynwyd i ysgrifennu drama gomedi o’r enw Planed Patagonia.[7]
Roedd hefyd yn un o'r Jonesiaid a dorrodd record y byd Jones Jones Jones am gasglu ynghyd y nifer fwyaf o bobl yn rhannu’r un cyfenw yng Nghanolfan y Mileniwm yn 2006, gan fod yn un o 1,224 Jones a gymerodd ran.[8]
Bywyd personol
golyguWedi i losgiadau tai haf ddechrau yn 1979, a'r heddlu yn rhwystredig oherwydd eu hymdrechion aflwyddiannus i ddal y rhai oedd yn gyfrifol, arestiwyd Mei Jones ynghyd â'i gyd-aelod o gast C'mon Midffild!, Bryn Fôn yn 1990.[9] Ni ddygwyd unrhyw gyhuddiadau yn eu herbyn.
Bu farw yn 68 mlwydd oed wedi cyfnod o salwch. Roedd yn dad i pedwar o blant, Ela, Lois, Steffan ac Aaron.[10]
Gwaith
golyguRadio
golygu- Pupur a Halen, Radio Cymru, 1981
- Wythnos i’w Anghofio
Ffilm a theledu
golyguTeitl | Blwyddyn | Rhan | Cwmni Cynhyrchu | Nodiadau |
---|---|---|---|---|
Goglis | Dai Clust | HTV Cymru | ||
Wastad At Y Tu Fas | ||||
Hufen a Moch Bach | ||||
Anturiaethau Dic Preifat | ||||
Ŵyn i'r Lladdfa | 1984 | |||
Siwan | 1986 | Llywelyn Fawr | ||
Twll o Le | 1987 | Ffilmiau Bryngwyn | ||
C'mon Midffîld! | 1988-1994 | Wali Tomos | Ffilmiau'r Nant | 5 cyfres |
Outside Time | 1991 | Efnisien | ||
Dŵr a Thân | 1992 | Ffilmiau Bryngwyn | ||
Midffîld: Y Mwfi | 1992 | Wali Tomos | Ffilmiau'r Nant | Ffilm deledu |
Julis Caesar | 1994 | Brutus (Llais) | ||
Y Siop | 1996 | |||
Yr Heliwr | 1997 | Myrddin Greene | Pennod: Bro Dirgelion | |
Pobol y Cwm | 1997 | Charles McGurk | BBC Cymru | |
C'mon Midffîld a Rasbrijam | 2004 | Wali Tomos | Ffilmiau'r Nant |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Index entry". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2018.
- ↑ Yr awdur a’r actor Mei Jones wedi marw yn 68 oed , BBC Cymru Fyw, 5 Tachwedd 2021.
- ↑ "Trafod tictacs gyda Wali; Caron Wyn Edwards fu'n sgwrsio a Mei Jones, awdur y ffilm Nadolig, C'mon Midffild a Rasbrijam, a'r actor sy'n chwarae Wali.", Daily Post, 18 Rhagfyr 2004.
- ↑ "Clwb pêl-droed yn dathlu 60", bbc.co.uk, 11 Mehefin 2007.
- ↑ Enillwyr gwobrau Nant[dolen farw]
- ↑ Conwy Urdd to kick off with Saturday prom night , Daily Post, 21 Mai 2008. Cyrchwyd ar 20 Rhagfyr 2018.
- ↑ Cwrs Sgwennu Comedi : Ty Newydd (5 Chwefror 2008). Adalwyd ar 20 Rhagfyr 2018.
- ↑ 'Darlledu Sioe’r Jonesiaid a Dorrodd Record Byd' 26 Tachwedd 2006 S4C
- ↑ 25 years later... why have we still not caught the cottage burners?, Daily Post 9 Rhagfyr 2004
- ↑ Yr actor a’r sgriptiwr Mei Jones wedi marw , Golwg360, 5 Tachwedd 2021.
Dolenni allanol
golygu- Mei Jones ar wefan Internet Movie Database