Gemau Olympaidd yr Henfyd

Cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Henfyd am y tro cyntaf yn Olympia, yn nhiriogaeth Elis, Gwlad Groeg yn 776 CC, ac fe'u dathlwyd hyd 393 OC. Cyfeirid atynt yn wreiddol fel y Gemau Olympaidd (Groeg: Ολυμπιακοί Αγώνες; Olympiakoi Agones), ar ôl enw'r ddinas, er mwyn gwahaniaethu rhyngddynt â gemau eraill Groeg. Roeddent yn gyfres o gystadlaethau athletaidd gydag athletwyr o amryw o ddinas-wladwriaethau Groeg yr Henfyd yn cymryd rhan.[1]

Gemau Olympaidd yr Henfyd
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon, gŵyl grefyddol Edit this on Wikidata
Mathpenteteric competition, stephanitic games, panegyris Edit this on Wikidata
Daeth i ben5 g Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu776 CC Edit this on Wikidata
Olynwyd ganGemau Olympaidd Modern Edit this on Wikidata
LleoliadOlympia, Q28500941 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Roedd gemau Olympiaidd yr henfyd braidd yn wahanol i'r gemau modern. Roedd llai o ddigwyddiadau ac ond dynion rhydd a siaradai Roeg allai gymryd rhan.

Ond o'r cychwyn cyntaf bu'r Gemau Olympaidd yn fwy nag achlysur ar gyfer athletau a mabolgampau eraill fel ymgodymu. Roeddent yn gyfle i hyrwyddo diwylliant, clywed cerddi newydd, gwrando ar gerddoriaeth a thrafod y byd a'i bethau.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Ancient Olympic Games, Microsoft® Encarta® Online Encyclopedia 2006". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-05-04. Cyrchwyd 2007-12-06.
  Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Groeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato