George Herbert Mead

Athronydd a chymdeithasegydd o'r Unol Daleithiau oedd George Herbert Mead (27 Chwefror 186326 Ebrill 1931) sydd yn nodedig fel un o arloeswyr Pragmatiaeth a seicoleg gymdeithasol ac am ddatblygu damcaniaeth rhyngweithredaeth symbolaidd.

George Herbert Mead
Ganwyd27 Chwefror 1863 Edit this on Wikidata
South Hadley Edit this on Wikidata
Bu farw30 Ebrill 1931 Edit this on Wikidata
Chicago Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, cymdeithasegydd, seicolegydd, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amMind, Self and Society Edit this on Wikidata
Gwobr/auCarus Lectures Edit this on Wikidata

Ganed yn South Hadley, Massachusetts. Astudiodd yng Ngholeg Oberlin, Ohio, ac ym Mhrifysgol Harvard. Addysgodd athroniaeth a seicoleg i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Michigan o 1891 i 1894, ac ym Mhrifysgol Chicago o 1894 hyd at ei farwolaeth. Bu farw yn Chicago yn 68 oed. Ni ysgrifennodd Mead yr un llyfr yn ystod ei oes, er iddo gyhoeddi sawl erthygl. Wedi ei farwolaeth, golygwyd pedair cyfrol o'i waith, yn seiliedig ar nodiadau ei ddarlithoedd a'i bapurau personol, gan ei fyfyrwyr, a chyhoeddwyd ar ffurf The Philosophy of the Present (1932), Mind, Self, and Society (1934), Movements of Thought in the Nineteenth Century (1936), a The Philosophy of the Act (1938).[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) George Herbert Mead. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Chwefror 2020.