Prifysgol Michigan
Prifysgol daleithiol Michigan yw Prifysgol Michigan (Saesneg: University of Michigan; UM, U-M, U of M, neu UMich) a leolir yn ninas Ann Arbor, Michigan, Unol Daleithiau America. Sefydlwyd ar ffurf y Catholepistemiad, neu Brifysgol Michigania, yn Detroit, Tiriogaeth Michigan, ym 1817, ugain mlynedd cyn i Michigan gael ei derbyn yn dalaith gan yr undeb. Symudodd yr ysgol i Ann Arbor ym 1837 ar safle 40 acr (16 ha) a elwir bellach yn y Campws Canolog. Ers ei sefydlu yn Ann Arbor, mae prif gampws y brifysgol wedi ehangu i gynnwys mwy na 584 o brif adeiladau a chyfanswm arwynebedd o 34 million gross troedfedd sgwar (780 acr; 3.2 km2) ar draws y Campws Canolog a Champws y Gogledd, dau gampws rhanbarthol yn ninasoedd cyfagos Flint (agorwyd 1956) a Dearborn (agorwyd 1959), a chanolfan allanol yn Detroit. Mae Prifysgol Michigan yn un o aelod-sefydlwyr y Gymdeithas Prifysgolion Americanaidd.
Arwyddair | Artes, Scientia, Veritas |
---|---|
Math | prifysgol ymchwil gyhoeddus, sefydliad addysg cyhoeddus yr Unol Daleithiau |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Dwyrain |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ann Arbor |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Cyfesurynnau | 42.2769°N 83.7381°W |
Cod post | 48109 |
Sefydlwydwyd gan | Gabriel Richard |
Prifysgol Michigan yw un o brifysgolion ymchwil blaenaf yr Unol Daleithiau a chanddi wariant blynyddol ar ymchwil sydd bron $1.5 biliwn,[1][2] ac mae wedi ei rhestru ymhlith dosbarth "R1: Prifysgolion Doethurol - Gweithgarwch ymchwil uchel iawn" yn ôl Dosbarthiad Carnegie.[3] Yn niwedd 2019, roedd 25 o enillwyr Gwobrau Nobel, 6 o enillwyr Gwobr Turing, ac un enillydd Medal Fields yn gyn-fyfyrwyr, academyddion, neu fel arall yn gysylltiedig â Phrifysgol Michigan. Mae rhaglen ôl-raddedig y brifysgol yn cynnig doethuriaethau yn y dyniaethau, gwyddorau cymdeithas, a meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, yn ogystal â graddau proffesiynol mewn pensaernïaeth, busnes, meddygaeth, y gyfraith, fferylliaeth, nyrsio, gwaith cymdeithasol, iechyd cyhoeddus, a deintyddiaeth. Mae mwy na 540,000 o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Michigan yn fyw ar draws y byd, sef un o'r cyrff mwyaf ei faint o gyn-fyfyrwyr gan unrhyw sefydliad addysg uwch yn y byd.[4]
Mae timau athletaidd Prifysgol Michigan, a elwir y Wolverines, yn cystadlu yn Adran I yr NCAA (y Gymdeithas Athletaidd Golegol Genedlaethol) ac yn aelodau cynhadledd chwaraeon y Big Ten. Mae mwy na 250 o athletwyr a hyfforddwyr o Brifysgol Michigan wedi cystadlu yn y Gemau Olympaidd[5] ac wedi ennill mwy na 150 o fedalau.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Slagter, Martin (7 Rhagfyr 2017). "University of Michigan spends 2nd most on research at $1.5 billion". The Ann Arbor News (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 Ebrill 2020.
The University of Michigan once again spent more on research than any public university in the country during the 2017 fiscal year with a record-breaking $1.48 billion in expenditures, according to UM's annual research report.…UM ranked second overall to only Johns Hopkins University among all United States universities in research expenditures.
- ↑ (Saesneg) University of Michigan. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Ebrill 2020.
- ↑ (Saesneg) "University of Michigan Carnegie Classification". Prifysgol Indiana. 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-03. Cyrchwyd 8 Ebrill 2020.
- ↑ (Saesneg) "Michigan Listed Among Ten Most Powerful Alumni Networks". Michigan Ross. Cyrchwyd 8 Ebrill 2020.
- ↑ (Saesneg) Kinney, Greg (4 Chwefror 2020). "Michigan in the Olympics - Michigan Olympians by Sport". University of Michigan Athletics History. Bentley Historical Library. Cyrchwyd 8 Ebrill 2020.
- ↑ (Saesneg) Kinney, Greg (21 Awst 2016). "Michigan in the Olympics - University of Michigan Medalists". University of Michigan Athletics History. Bentley Historical Library. Cyrchwyd 8 Ebrill 2020.