George William Griffith
Hynafiaethydd ac ustus heddwch o Benybenglog, Sir Benfro oedd George William Griffith (21 Ebrill 1584 - 1655?) a oedd hefyd yn dir-feddiannwr ac yn fab hynaf i William Griffith.[1]
George William Griffith | |
---|---|
Ganwyd | 21 Ebrill 1584 |
Bu farw | 29 Awst 1655 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | hynafiaethydd |
Priododd, 22 Tachwedd 1605 gyda Maud Bowen o Lwyngwair a chawsant saith o blant. Penodwyd ef yn ysgrifennydd cyhoeddus yn sir Benfro gan Gyngor Cymru a'r Gororau ac roedd yn ddistain barwniaeth Cemaes. Cynorthwyodd George Owen o Henllys gyda'i waith ymchwil ac ysgrifennodd lawer am hel achau. Ef oedd un o'r boneddwyr olaf yn Ne Cymru i noddi beirdd yn ôl yr hen arferiad.
Yn ystod y Rhyfel Cartref ochrodd gyda Cromwell; ymosodwyd ar Benybenglog gan filwyr y brenin a difrodwyd llawer o'i eiddo. Cafodd ei wobrwyo drwy ei benodi'n aelod o nifer o bwyllgorau seneddol. Claddwyd ef ym Meline.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig; Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 22 Mehefin 2015