George Owen
Hynafiaethydd, naturiaethwr ac awdur o Gymru oedd George Owen o Henllys (1552 - 26 Awst, 1613).
George Owen | |
---|---|
Ganwyd | 1552 Nanhyfer |
Bu farw | 26 Awst 1613 |
Man preswyl | Henllys |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | naturiaethydd, daearegwr, mapiwr |
Tad | William Owen |
Plant | George Owen |
Bywgraffiad
golyguGaned ef yn Henllys ym mhlwyf Nanhyfer, Sir Benfro, yn fab hynaf Elizabeth Herbert a William Owen, cyfreithiwr cefnog. Addysgwyd George yn y gyfraith yn Llundain, ac yn 1571 priododd Elizabeth Phillips. Bu iddynt unarddeg o blant; ganed ei fan hynaf, Alban Owen, yn 1580.
Cymerai ddiddordeb mawr mewn achyddiaeth, hanes lleol a daearyddiaeth, yn Sir Benfro a rhannau eraill o Gymru. Fe'i cynorthwywyd yn ei waith gan George William Griffith. Bu iddo ran mewn gosod y seiliau ar gyfer astuduaeth o ddaeareg Cymru. Bu'n noddwr i nifer o feirdd Cymraeg.
Bu farw yn Hwlffordd a chladdwyd ef yn Nanhyfer. Canodd y bardd Ieuan Tew Ieuanc farwnad iddo, gan ei gyfarch wrth ei enw mewn gwisg Gymraeg, sef Siôrs Owen.
Enwyd un nodwedd ddaearyddol ar y Lleuad ar ei ôl; y grib a elwir yn Dorsum Owen.
Cyhoeddiadau
golygu- A Dialogue of the present Government of Wales, 1594.
- The Number of the Hundreds, Castells, Parish Churches and ffayres...in all the Shiers of Wales yn ddiweddarach cafodd hwn y teitl Description of Wales, 1602.
- 'The Description of Penbrokeshire, 1603.
Cyhoeddodd fap o Sir Benfro (1602), a gyhoeddwyd yn chweched argraffiad y Britannia (1607).