Gerddi Dyffryn

arboretwm yn Bro Morgannwg

Plasdy â dros 55 erw o erddi[1] yw Gerddi Dyffryn, a leolir ger pentref Sain Nicolas yng nghymuned Gwenfô, Bro Morgannwg.[2] Mae'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.[1] Adeiladwyd Tŷ Dyffryn mewn arddull tebyg i château Ffrengig ar gyfer y diwydiannwr John Cory, rhwng 1893 â 1894. Ceir nifer o fentyll simnai hanesyddol y tu fewn.[2] Cynlluniwyd y gerddi gan Thomas Mawson gyda chyfraniad hefyd gan Reginald Cory, mab John Cory, a etifeddodd yr ystâd ym 1906; roedd yntau'n arddwr brwd.[3] Yn ôl Cadw, a benodd statws rhestredig Gradd I i'r gerddi, dyma "gerddi Edwardaidd crandiaf a godidocaf Cymru. Mae'r gerddi i'w cymharu â rhai o erddi gorau'r cyfnod ym Mhrydain".[3] Gradd II* yw statws rhestredig Tŷ Dyffryn.[2] Mae Gerddi Dyffryn wedi ymddangos sawl gwaith ar raglen y BBC Doctor Who; ar un o'r achlysuron hyn chwaraeodd ran Palas Versailles.[4]

Gerddi Dyffryn
Matharboretwm, gardd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTŷ Dyffryn Edit this on Wikidata
SirBro Morgannwg Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr52.4 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4435°N 3.30309°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganyr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Edit this on Wikidata
Map
Perchnogaethyr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Edit this on Wikidata

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Dyffryn Gardens. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Adalwyd ar 24 Ionawr 2015.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Dyffryn House, Wenvoe. British Listed Buildings. Adalwyd ar 24 Ionawr 2015.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Donovan, Gerry (Gaeaf 2005–6). Dyffryn Gardens and Arboretum: Restoration and the Centenary. The Bulletin. Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru. Adalwyd ar 24 Ionawr 2015.
  4. (Saesneg) Dyffryn Gardens. Doctor Who: The Locations Guide. Adalwyd ar 24 Ionawr 2015.

Dolenni allanol golygu