Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Sefydliad cadwraethol, elusennol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yw'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Mannau o Ddiddordeb Hanesyddol neu Harddwch Naturiol, a elwir fel arfer Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Nid yw'r Ymddiriedolaeth yn gweithredu yn yr Alban, ble ceir sefydliad annibynnol, sef Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban.
Enghraifft o'r canlynol | national trust, sefydliad di-elw, casgliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 12 Ionawr 1895 |
Yn cynnwys | Heritage Open Days |
Aelod o'r canlynol | Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru |
Gweithwyr | 7,463, 7,002, 6,548, 7,578, 8,015 |
Isgwmni/au | Coughton Court, Cliveden, Shugborough Hall, Wray Castle, Hill Top Farm |
Pencadlys | Swindon |
Gwefan | https://www.nationaltrust.org.uk/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydlwyd yr ymddiriedolaeth ar 12 Ionawr 1895 gan Octavia Hill (1838–1912), Syr Robert Hunter (1844–1913) a Hardwicke Rawnsley (1851–1920).
Yn ôl ei wefan:
"Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio i gadw a gwarchod yr arfordir, cefn gwlad ac adeiladau o Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Rydym yn gwneud hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd, drwy ofalu ymarferol a chadwraeth, trwy addysgu a hysbysu, a thrwy annog miliynau o bobl i fwynhau eu treftadaeth genedlaethol.""
Mae'r ymddiriedolaeth yn berchen ar lawer o fannau gan gynnwys tai a gerddi hanesyddol, henebion diwydiannol a safleoedd cymdeithasol, hanesyddol. Mae'n un o dirfeddianwyr mwyaf gwledydd Prydain, ac mae'n berchen ar nifer fawr o ardaloedd hardd sydd ar agor i'r cyhoedd am ddim. Hwn yw'r sefydliad sydd â'r aelodaeth fwyaf hefyd, ac mae'n un o'r elusennau mwyaf yng ngwledydd Prydain o ran incwm ac asedau.
Yn 2009 nid oedd gan yr ymddiriedolaeth yr un cynrychiolydd o Gymru ar Fwrdd yr Ymddiriedolaeth.[1]
Gweler hefyd
golyguCystylltiadau Allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Golwg, 20 Awst 2009. Mae 100,000 o aelodau'r ymddiriedolaeth yn dod o Gymru a 3.5 miliwn yn dod o Loegr.