Gertrude Stein
Nofelydd Americanaidd oedd Gertrude Stein (3 Chwefror 1874 - 27 Gorffennaf 1946) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, casglwr celf, perchennog salon, hunangofiannydd a libretydd.[1][2][3][4][5][6][7] Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Three Lives, Tender buttons: objects, food, rooms, The Making of Americans, Four Saints in Three Acts, The Autobiography of Alice B. Toklas, Everybody's Autobiography a Doctor Faustus Lights the Lights.[8]
Gertrude Stein | |
---|---|
Ganwyd | 3 Chwefror 1874 Allegheny |
Bu farw | 27 Gorffennaf 1946 o canser y stumog Neuilly-sur-Seine |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, bardd, casglwr celf, perchennog salon, hunangofiannydd, libretydd, dramodydd, awdur, casglwr |
Adnabyddus am | Three Lives, Tender buttons: objects, food, rooms, The Making of Americans, Four Saints in Three Acts, The Autobiography of Alice B. Toklas, Everybody's Autobiography, Doctor Faustus Lights the Lights |
Mudiad | llenyddiaeth fodernaidd, moderniaeth |
Partner | Alice B. Toklas |
llofnod | |
Fe'i ganed yn Allegheny West, Pittsburgh a bu farw yn Neuilly-sur-Seine, Ffrainc o ganser y stumog; fe'i claddwyd ym Mynwent Père Lachaise, Paris. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg Radcliffe, Ysgol Feddygaeth Johns Hopkins, Prifysgol Harvard a Phrifysgol Johns Hopkins. [9][10]
Wedi'i geni yng nghymdogaeth Allegheny West yn Pittsburgh fe'i magwyd yn Oakland, Califfornia, cyn symud i Baris ym 1903. Yno, yn Ffrainc y treuliodd weddill ei bywyd. Pan oedd Stein yn 14 oed, bu farw ei mam a thair blynedd yn ddiweddarach, bu farw ei thad hefyd. Yna cymerodd brawd hynaf Stein, Michael Stein, drosodd y busnes teuluol ac ym 1892 trefnodd i Gertrude a chwaer arall, Bertha, fyw gyda theulu eu mam yn Baltimore.
Cynhaliodd salon ym Mharis, lle byddai ffigyrau blaenllaw moderniaeth mewn llenyddiaeth a chelf, pobl megis Pablo Picasso, Ernest Hemingway, F. Scott Fitzgerald, Sinclair Lewis, Ezra Pound, Sherwood Anderson a Henri Matisse, yn cwrdd.
Yr awdur
golyguYm 1933, cyhoeddodd Stein led-gofiant o'i blynyddoedd ym Mharis, The Autobiography of Alice B. Toklas, a ysgrifennwyd yn llais Alice B. Toklas, ei phartner oes. Daeth y llyfr yn werthwr-gorau gan ddyrchafu Stein i amlygrwydd mawr o fewn y prif ffrwd.[11]
Mae dau ddyfyniad o'i gweithiau wedi dod yn adnabyddus iawn: "Rhosyn yw rhosyn yw rhosyn yw rhosyn," ac "nid oes yno yno", gyda'r olaf yn aml yn cael ei ystyried yn gyfeiriad at gartref ei phlentyndod yn Oakland.[12]
yn ystod yr Ail Ryfel Byd, er ei bod yn Iddew, caniataodd y Natsiaid iddi barhau i fyw a gweithio fel casglwr celf; fe'i beirniadwyd yn hallt am hyn, gan mai'r unig reswm y caniataodd yr awdurdodau Natsiaidd iddi fyw a gweithio, fel hyn, oedd pe bai'n cydweithio gyda nhw mewn dulliau dichellgar. dywedir iddi wneud hyn drwy Bernard Faÿ. Ar diwedd y rhyfel, canmolodd Natsi arall, sef arweinydd y Vichy, Marshal Pétain, un arall a oedd yn cydweithio gyda'r Natsiaid.[13][14]
Anrhydeddau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Disgrifiwyd yn: http://www.ubu.com/historical/stein/index.html. dyddiad cyrchiad: 10 Chwefror 2017. http://www.ubu.com/sound/stein.html. dyddiad cyrchiad: 10 Chwefror 2017. http://www.ubu.com/film/stein.html. dyddiad cyrchiad: 10 Chwefror 2017. https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_356. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 12 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Gertrude Stein". "Gertrude Stein". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Gertrude Stein". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Gertrude Stein". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Gertrude Stein". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Gertrude Stein". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Gertrude Stein". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Gertrude Stein". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Gertrude Stein".
- ↑ Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 А. М. Прохорова, ed. (1969) (yn ru), Большая советская энциклопедия (3rd ed.), Moscfa: The Great Russian Encyclopedia, OCLC 14476314, Wikidata Q17378135 ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Gertrude Stein". "Gertrude Stein". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Gertrude Stein". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Gertrude Stein". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Gertrude Stein". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Gertrude Stein". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Gertrude Stein". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Gertrude Stein".
- ↑ Man geni: http://hdl.handle.net/1903.1/1523. dyddiad cyrchiad: 8 Ionawr 2021.
- ↑ Achos marwolaeth: http://hdl.handle.net/1903.1/1523. dyddiad cyrchiad: 8 Ionawr 2021.
- ↑ "Extravagant Crowd: Gertrude Stein and Alice B. Toklas". Cyrchwyd 16 Hydref 2012.
- ↑ Alma mater: http://hdl.handle.net/1903.1/1523. dyddiad cyrchiad: 8 Ionawr 2021. http://hdl.handle.net/1903.1/1523. dyddiad cyrchiad: 8 Ionawr 2021.
- ↑ Galwedigaeth: http://hdl.handle.net/1903.1/1523. dyddiad cyrchiad: 8 Ionawr 2021. Union List of Artist Names. dyddiad cyhoeddi: 8 Awst 2021. dyddiad cyrchiad: 10 Mai 2022.
- ↑ Mellow, James R. (3 Mai 1998). "The Stein Salon Was The First Museum of Modern Art". New York Times. Cyrchwyd 13 Hydref 2012.
- ↑ Cf. Natias Neutert about Gertrude Stein's Rose
- ↑ Will, Barbara (Ebrill 2012). "The Strange Politics of Gertrude Stein". Humanities 33 (2). https://www.neh.gov/humanities/2012/marchapril/feature/the-strange-politics-gertrude-stein. Adalwyd 14 Hydref 2012.
- ↑ Herschthal, Eric (24 Ebrill 2012). "Gertrude Stein: Why Her Fascist Politics Matter". The Jewish Week. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-05-22. Cyrchwyd 14 Hydref 2012.