Gwleidydd Brasilaidd oedd Getúlio Dorneles Vargas (19 Ebrill 1882 – 24 Awst 1954) a wasanaethodd yn swydd Arlywydd Brasil yn y ddau gyfnod 1930–45 a 1951–54.

Getúlio Vargas
Ganwyd19 Ebrill 1882 Edit this on Wikidata
São Borja Edit this on Wikidata
Bu farw24 Awst 1954 Edit this on Wikidata
o anaf balistig Edit this on Wikidata
Catete Palace Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBrasil Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Ffederal Rio Grande do Sul Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfreithiwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Siambr Dirprwyon Brasil, Arlywydd Brasil, Arlywydd Brasil, member of the Senate of Brazil Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolBrazilian Labour Party, Republican Party of Rio Grande do Sul Edit this on Wikidata
TadManuel do Nascimento Vargas Edit this on Wikidata
MamCândida Francisca Dornelles Edit this on Wikidata
PriodDarci Vargas Edit this on Wikidata
PlantLutero Vargas, Alzira Vargas, Jandira Vargas, Manuel Sarmanho Vargas, Getúlio Vargas Filho Edit this on Wikidata
Gwobr/auColer Urdd Isabella y Catholig, Urdd yr Eryr Gwyn, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Gwobr y Groes Uwch Genedlaethol o Groes y De, Urdd Teilyngdod y Llynges, Uwch Groes Urdd Filwrol y Tŵr a'r Cleddyf, Grand Cross of the Military Order of Avis, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir gyda Choler Edit this on Wikidata
llofnod

Ganwyd yn nhalaith Rio Grande do Sul, a gwasanaethodd yn y fyddin ac astudiodd y gyfraith cyn iddo droi'n wleidydd. Cafodd ei ethol i'r Gyngres Genedlaethol ym 1922, ac wedi iddo gyflawni tymor o pedair blynedd fe gafodd ei benodi yn weinidog cyllid yn llywodraeth yr Arlywydd Washington Luís. Ym 1928 cafodd Vargas ei ethol yn llywodraethwr Rio Grande do Sul. Collodd etholiad arlywyddol 1930, ond ym mis Hydref y flwyddyn honno fe gipiodd grym mewn chwyldro.

Llywodraethodd Vargas ei wlad am bymtheg mlynedd, y mwyafrif o'r cyfnod hwnnw heb y gyngres. Yn ôl ei wrthwynebwyr unben ydoedd, ond cafodd ei gefnogi fel arweinydd sefydlog yn ystod oes o ffasgaeth a chomiwnyddiaeth. Ar 29 Hydref 1945 cafodd ei ddymchwel, ond parhaodd ei yrfa wleidyddol a chafodd ei ethol yn seneddwr i Rio Grande do Sul. Ymgyrchodd am yr arlywyddiaeth eto ym 1950, fel ymgeisydd y Blaid Lafur. Dychwelodd i'r arlywyddiaeth ar 31 Ionawr 1951. Erbyn 1954 wynebai Vargas gwrthwynebiad i'w lywodraeth o sawl ochr, ac fe saethodd ei hunan yn farw yn hytrach nag ymddiswyddo.