Gethin Wyn Jones
Arlunydd o Gymru yw Gethin Wyn Jones (ganed tua 1985).
Gethin Wyn Jones | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | darlunydd |
Cyflogwr |
Bywyd cynnar
golyguFe’i fagwyd yn bennaf ym Mangor.[1] Yn 2006, fe raddiodd mewn celfyddyd gain a pheintio ym Mhrifysgol Caerfaddon.
Gyrfa fel arlunydd
golyguErs graddio, ei gyflogwr yw'r artist Damien Hirst, fel un o’i gynorthwywyr, mewn stiwdio yng ngogledd Dyfnaint. Serch hynny, mae lluniau gan Gethin ei hun wedi eu harddangos droeon, er enghraifft yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2017/2018[2][3] ac yng Nghanolfan Gelf Exeter. Yn 2012 bu ei arddangosfa lawn gyntaf yn Oriel Mostyn, Llandudno.[4][5]
Arddangosfeydd
golygu- 2012 - Oriel Mostyn, Llandudno
Gwobrau
golygu- 2006 - Nationwide Mercury Prize Art Competition - enillodd gystadleuaeth, gyda waith 3D o enw Colour Music, i ddylunio clawr ar gyfer CD Gwobr Gerddoriaeth Mercury[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Lewis, Scott (24 Ebrill 2006). Bath student's art to grace Mercury Prize CD cover. BBC Somerset.
- ↑ Rhoslyn Moore, Sara (4 Medi 2017). Y Lle Celf: Resources of Resilience for a Fragile World. Planet Magazine.
- ↑ Y Lle Celf yn y Senedd: 'O'r cywrain i'r cyfareddol'. BBC Cymru Fyw (7 Awst 2018).
- ↑ GETHIN WYN JONES 16 Meh - 09 Medi 2012 Gallery 1[dolen farw] o wefan Oriel Mostyn
- ↑ Chwarae â Rhithiau[dolen farw], Menna Baines. Barn Mehefin 2012