Awdur a newyddiadurwr Eidalaidd oedd Gianni Rodari (23 Hydref 192014 Ebrill 1980) sydd yn nodedig am ei lyfrau ffantasi i blant, gan gynnwys Il romanzo di Cipollino (1951).

Gianni Rodari
Gianni Rodari yn y 1950au.
Ganwyd23 Hydref 1920 Edit this on Wikidata
Omegna Edit this on Wikidata
Bu farw14 Ebrill 1980 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Eidal, Teyrnas yr Eidal, Italian Social Republic Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Università Cattolica del Sacro Cuore Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, addysgwr, newyddiadurwr, sgriptiwr, bardd, addysgwr, awdur geiriau, ysgrifennwr, awdur plant Edit this on Wikidata
Adnabyddus amGelsomino in the Country of Liars, The Adventures of the Little Onion, Q3822469, Q3774269, The Cake in the Sky Edit this on Wikidata
Arddullllenyddiaeth plant Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolCommunist Party of Italy Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Hans Christian Andersen, Premio Letteratura Ragazzi di Cento Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.giannirodari.it Edit this on Wikidata

Ganed yn Omegna yn nhalaith Verbano-Cusio-Ossola, Piemonte, yng ngogledd yr Eidal. Pobydd oedd ei dad. Derbyniodd dystysgrif addysgu ym 1938 yn Varese a gweithiodd hyd 1943 fel athro mewn ysgol gynradd. Yn y cyfnod hwn, arbrofai â thechnegau barddonol gyda'i ddisgyblion. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ymaelododd â'r Blaid Ffasgaidd cyn troi at y Comiwnyddion ym 1944. Penodwyd yn olygydd ar gylchgrawn y Blaid Gomiwnyddol, Ordine nuovo. Bu'n ohebydd i'r papur newydd comiwnyddol L'Unità, ac yn ei ysgrifeniadau darparai ddeunydd i blant a oedd yn arbrofi â ffurf ac iaith.[1] Gweithiodd yn gyfarwyddwr i Il Pioniere, sefydliad ar gyfer plant o deuluoedd adain-chwith, a bu'n olygydd ar y cylchgrawn i blant Il Pioniere o 1950 i 1953 a'r cylchgrawn i rieni Il Giornale dei genitori o 1968 i 1977.[2] Ym 1958 dechreuodd olygu'r papur newydd dyddiol Paese Sera, a chyfrannodd nifer fawr o erthyglau ei hun ar bynciau diwylliant, addysg a seicoleg yn ogystal ag adolygiadau o lyfrau plant i'r cyhoeddiad hwnnw.[3]

Trwy gydol ei yrfa, cyhoeddodd Rodari ryw 25 o lyfrau i blant, gan gynnwys nofelau, straeon byrion, a barddoniaeth. Bu nifer o'r rheiny yn seiliedig ar ddeunydd a gyhoeddwyd ganddo mewn cylchgronau a phapurau newydd ers tro. Priodolir iddo gyflwyno cerddi dwli i farddoniaeth plant Eidaleg, dan ddylanwad awduron swrealaidd Ffrangeg a thraddodiad llên ddwli Lloegr.[3] Enillodd sawl gwobr lenyddol yn yr Eidal am ei waith, gan gynnwys y Premio Prato ym 1960 am y casgliad o rigymau Filastrocche in cielo e in terra (1960), y Premio Castello ym 1963 am Gip nel televisore (1962), y Premio Europa Dralon ym 1967 a'r Premio Castello ym 1968 am La torta in cielo (1966), a'r Premio Rubino ym 1968 am Il libro degli errori (1964).[4]

Enillodd Rodari Wobr Hans Christian Andersen am Ysgrifennu ym 1970, y wobr lenyddol uchaf ei bri ar gyfer llenyddiaeth plant. Yn y gyfrol Grammatica della fantasia (1973), esbonia Rodari ei ddulliau o gyfuno'r dychymyg a digrifwch â'i amcan i addysgu plant.[2] Bu farw yn Rhufain yn 59 oed.[4] Wedi ei farwolaeth, cyhoeddwyd y gyfrol o'i newyddiaduraeth Il cane di Magonza (1982).[2]

Llyfryddiaeth golygu

  • Il libro delle filastrocche (1950).
  • Il romanzo di Cipollino (1951).
  • Il viaggio della Freccia Azzurra (1954).
  • Le avventure di Cipollino (Rhufain: Editori Riuniti, 1956). Darluniwyd gan Raul Verdini.
  • Gelsomino nel paese dei bugiardi (1958).
  • Filastrocche in cielo e in terra (Torino: Einaudi, 1960). Darluniwyd gan Bruno Munari.
  • Gip nel televisore (Milan: Mursia, 1962). Darluniwyd gan Giancarlo Carloni.
  • Favole al telefono (Torino: Einaudi, 1962). Darluniwyd gan Bruno Munari.
  • Il libro degli errori (1964).
  • La torta in cielo (Torino: Einaudi, 1966). Darluniwyd gan Bruno Munari.
  • Venti storie più una (1969).
  • Tante storie per giocare (1971).
  • Novelle fatte a macchina (1973).
  • Grammatica della fantasia (1973).
  • Turista in Cina (Rhufain: Il Rinnovamento, 1974).
  • C'era due volte il barone Lamberto (1978).
  • Il cane di Magonza (1982).
  • Filastrocche per tutto l'anno (Rhufain: Editori Riuniti, 1986). Darluniwyd gan Emanuele Luzzati.

Gweler hefyd golygu

  • Maurice Sendak, a enillodd Wobr Hans Christian Andersen am Ddarlunio yn yr un flwyddyn â Rodari

Cyfeiriadau golygu

  1. (Eidaleg) Emanuele Trevi, "RODARI , Gianni", Enciclopedia Italiana (Treccani, 1994). Adalwyd ar 20 Mawrth 2021.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Eidaleg) "Rodari, Gianni", Enciclopedia on line (Treccani). Adalwyd ar 20 Mawrth 2021.
  3. 3.0 3.1 Eva Glistrup, The Hans Christian Andersen Awards, 1956–2002 (Basel: IBBY, 2002), t. 42.
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) "Rodari, Gianni 1920-1980" yn Contemporary Authors. Adalwyd ar 10 Mawrth 2021.

Darllen pellach golygu

  • M. Argilli, Gianni Rodari. Una biografia (Torino, 1990).
  • P. Boero, Una storia, tante storie. Guida all'opera di Gianni Rodari (1992).
  • C. Bonardi, Bibliografia delle opere di Gianni Rodari e degli scritti critici a lui dedicati (Fflorens, 1981).