Gitâr fas
(Ailgyfeiriad o Gitar fas)
Offeryn cerdd gyda phedwar o dannau ydy’r gitâr fas. Fel arfer, mae'r tannau'n cael eu tiwnio yn E, A, D, G o'r gwaelod, fel bas dwbl. Mae gan rhai gitarau bas bump neu chwech o dannau: yna mae'r tannau'n cael eu tiwnio at B, E, A, D, G neu B, E, A, D, G, C.
Mae gan y gitâr fas dau fath o synhwyrydd i'w gael fel arfer sef y "Humbucker" a synhwyrydd coil-sengl. Mae'r math cyntaf yn synhwyrydd gyda choil wedi ei droi oddi amgylch y magnedau er mwyn rhoi "boost" i'r signal. Mae'r synhwyrydd coil-sengl yn debyg i'r pigolan ar gitar fas Fender Jazz. mae'r coil wedi'i droi o amgylch yr electromagned. Mae gitâr fas sydd ag un synhwyrydd mawr yn defnyddio'r "J-Pickup". Mae "J-Pickup" yn gorchuddio'r holl bedwar llinyn.