Offeryn cerdd
Offerynnau cerdd yw pethau sy'n cael eu defnyddio i wneud cerddoriaeth.
Efallai mai'r ffurf gyntaf o gerddoriaeth oedd canu - defnyddio'r llais dynol ac mae defnyddioi'r corff - curo dwylo neu guro'r traed ar lawr i wneud rhythm yn hynafol iawn. Y datblygiad nesa fysai defnyddio pethau y darganfuwyd megis cyrn anifeiliaid neu foncyffion gwag. Dros amser, datblygwyd nifer helaeth o offerynnau gwahanol. Mae sŵn yn dod o awyr sy'n dirgrynu, ac mae offerynnau yn gweithio trwy reoli a helaethu'r dirgryniadau i wneud effaith ddymunol a phleserus.
Rhestr offerynnau cerdd
golygu- Offerynnau chwythbren
- Dydy nhw ddim wedi eu gwneud o bren o angenrheidrwydd ac yn aml defnyddir corsen.
- Offerynnau pres
- Mae offer pres yn cael eu hystyried ar wahân i offer chwythbrenau
- Corn ffrengig
- Ewffoniwm
- Tiwba
- Trombôn
- Utgorn
- Corn fflwgl
- Corn bariton
Offerynnau tannau Offerynnau Llinynnol
golyguOfferynnau anghyffredin
golyguMae unrhyw beth a ddefnyddir i greu cerddoriaeth yn offeryn cerdd. Dros y canrifoedd mae llawer o offerynnau wedi eu creu ledled y byd gan gynnwys:
- Balafon (Gorllewin Affrica)
- Balalaika (Rwsia)
- Bodhrán (Iwerddon)
- Bouzouki (Gwlad Groeg)
- Clychau Tsieineaidd (Tsieina)
- Crwth (Cymru)
- Didgeridoo (Awstralia)
- Koto (Japan)
- Moodswinger (America)
- Neola (Cymru)
- Oud (Dwyrain Canol)
- Pibgorn (Cymru)
- Pibgod (Cymru)
- Shamisen (Japan)
- Sitar (India)
- Txalaparta (Gwlad y Basg)
- Veena (India)
Nodyn
golygu- Offerynnau taro : Yn y byd cerddorol mae offer tannau sy ddim yn perthyn i deulu'r ffidil, e.e. telyn, gitâr, yn cael eu hystyried fel offerynnau taro, er bod tannau ganddyn nhw ac er bod y cerddor yn eu tynnu yn hytrach na'u taro. Mae piano a harpsicord hefyd yn cael eu hystyried fel offerynnau taro.