Glückel von Hameln

Dyddiadurwraig a gwraig fusnes Iddewig o'r Almaen oedd Glückel von Hameln (164519 Medi 1724) sydd yn nodedig am ei atgofion sydd yn ffynhonnell werthfawr am hanes, diwylliant, a bywydau'r Iddewon yng Nghanolbarth Ewrop yn niwedd yr 17g a dechrau'r 18g. Ysgrifennodd ei dyddiadur yn yr iaith Iddew-Almaeneg, gyda rhannau yn Hebraeg, mewn saith cyfrol yn y cyfnodau 1691–99 a 1715–19. Cofnod teuluol oedd bwriad y gwaith, a gyhoeddwyd o'r diwedd yn 1896 dan y teitl Zikhroynes Glikl Hamel.

Glückel von Hameln
Ganwydc. 1646 Edit this on Wikidata
Hamburg Edit this on Wikidata
Bu farw19 Medi 1724 Edit this on Wikidata
Metz Edit this on Wikidata
Man preswylHameln Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethhunangofiannydd, dyddiadurwr, ysgrifennwr, person busnes, masnachwr, entrepreneur, bywgraffydd Edit this on Wikidata

Ganed yn Hamburg yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Alltudiwyd yr Iddewon o Hamburg yn 1649 a symudodd Glückel a'i theulu i fwrdeistref Altona ar gyrion y ddinas. Wedi iddi dderbyn addysg Iddewig draddodiadol yn Altona, dychwelodd gyda'i theulu i Hamburg yn 1657. Priododd, yn 14 oed, â Hayim von Hameln, a chawsant 12 o blant. Wedi marwolaeth Hayim yn 1689, rheolai ei fusnes a'i faterion ariannol gan y weddw Glückel. Yn 1700 priododd â Cerf Lévy, banciwr ym Metz, Lorraine, yn Nheyrnas Ffrainc. Nid oedd Lévy yn gymaint o lwyddiant ym myd busnes â Glückel, ac yn fuan collodd ei ffortiwn ei hun yn ogystal ag holl arian ei wraig. Bu farw Lévy yn 1712, a bu Glückel yn byw gydag un o'i merched ym Metz nes iddi farw yno tua 78 oed.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Glikl of Hameln. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Mawrth 2020.