Teyrnas yng Ngorllewin Ewrop a fodolai o ganol y 9g, trwy gydol yr Oesoedd Canol, hyd at y cyfnod modern oedd Teyrnas Ffrainc (Hen Ffrangeg: Reaume de France; Ffrangeg Canol: Royaulme de France; Ffrangeg: Royaume de France). Ymgododd o olion yr Ymerodraeth Garolingaidd, a thyfodd yn un o bwerau mawrion Ewrop. Yn yr 16g datblygwyd ymerodraeth dramor gan Deyrnas Ffrainc, gyda thiriogaethau yn Asia, Affrica, a'r Amerig. Yn sgil y Chwyldro Ffrengig, diddymwyd y deyrnas yn y cyfnod o 1792 i 1814. Fe'i adferwyd, dwywaith, wedi cwymp Napoleon, a pharhaodd hyd at chwyldro arall ym 1848.

Teyrnas Ffrainc
ArwyddairMontjoye Saint Denis Edit this on Wikidata
Mathgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
PrifddinasParis, Versailles, Paris Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 987 Edit this on Wikidata
AnthemMarche Henri IV Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Ffrangeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladTeyrnas Ffrainc Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydayr Ymerodraeth Lân Rufeinig, Teyrnas Sbaen, Kingdom of Navarre beyond the Pyrenees, Teyrnas Navarra Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholEstates General, Cynulliad Cenedlaethol Cyfansoddol Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
brenin Ffrainc, brenin Ffrainc a Navarre Edit this on Wikidata
ArianFrench livre, livre tournois, livre parisis, Louis d'or, écu, Q2389458, assignat, French franc Edit this on Wikidata

Cychwynnodd Ffrainc ar ffurf Gorllewin Ffrancia (Lladin: Francia occidentalis), neu Deyrnas y Ffranciaid Gorllewinol, a oedd yn cyfateb i ran orllewinol yr Ymerodraeth Garolingaidd, a sefydlwyd gan Gytundeb Verdun yn 843. Rheolwyd y diriogaeth hon gan gangen o frenhinllin y Carolingiaid nes i Huw Capet gael ei ethol yn frenin yn 987. Câi'r wlad ei alw'n Francia, a'r teyrn yn rex Francorum (brenin y Ffranciaid) hyd at yr Oesoedd Canol Uwch. Philippe II ym 1190 oedd y cyntaf i alw ei hun yn rex Francie (brenin Ffrainc), a mabwysiadwyd y teitl hwnnw yn swyddogol ym 1204. O hynny ymlaen, byddai'r Capetiaid a'u canghennau—tai Valois a Bourbon—yn teyrnasu ar Ffrainc nes i'r frenhiniaeth gael ei ddymchwel ym 1792 yn ystod y Chwyldro Ffrengig. Câi Teyrnas Ffrainc hefyd ei rheoli mewn undeb personol â Theyrnas Navarra am ddau gyfnod, 1284–1328 a 1572–1620. Diddymwyd llys a llywodraeth Navarra ym 1620 a chyfeddianwyd y diriogaeth gan Ffrainc (er i Frenin Ffrainc barhau i ddefnyddio'r teitl Brenin Navarra hyd at ddiwedd y frenhiniaeth).

Yn ystod yr Oesoedd Canol, brenhiniaeth ffiwdal ddatganoledig oedd Ffrainc. Er yr oedd Llydaw a Chatalwnia (bellach yn rhan o Deyrnas Sbaen) yn swyddogol yn rhan o'r deyrnas, nid oedd gan Frenin Ffrainc fawr o awdurdod yn y tiriogaethau hynny. Roedd Lorraine a Profens yn daleithiau o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig, ac nid eto yn rhan o Ffrainc. Ar y dechrau, etholwyd brenhinoedd Gorllewin Ffrancia gan y pendefigion seciwlar ac eglwysig, a datblygodd yr arfer o goroni mab hynaf y brenin yn ystod oes ei dad. Sefydlwyd felly egwyddor cyntafanedigaeth wrywol, a gynhwysir yn y gyfraith Salig. Yn ystod yr Oesoedd Canol Diweddar, bu nifer o ryfeloedd o ganlyniad i gystadlu rhwng y Capetiaid a'r Plantagenetiaid, a oedd yn rheoli Teyrnas Lloegr fel rhan o'r Ymerodraeth Angywaidd. Y gwrthdaro mwyaf oedd y Rhyfel Can Mlynedd (1337–1453), pryd hawliodd brenhinoedd Lloegr orsedd Ffrainc. Yn sgil buddugoliaeth Tŷ Valois, ceisiodd y Ffrancod estyn eu grym i'r Eidal, ond cawsant eu trechu gan Sbaen a'r Ymerodraeth Lân Rufeinig yn ystod Rhyfeloedd yr Eidal (1494–1559).

Yn ystod y cyfnod modern cynnar, cafodd llywodraeth Ffrainc ei chanoli'n fwyfwy. Daeth yr iaith Ffrangeg yn iaith swyddogol genedlaethol, a chryfhaodd y brenin ei rym absoliwt drwy gyfundrefn weinyddol yr Ancien Régime. O ran crefydd, ymrannodd Ffrainc rhwng y mwyafrif Catholig a'r lleiafrif Protestannaidd, yr Hiwgenotiaid, gan arwain at gyfres o ryfeloedd cartref, y Rhyfeloedd Crefydd (1562–98). Niweidiwyd Ffrainc gan y gwrthdaro mewnol hynny, ond daeth y deyrnas yn wlad gryfaf y cyfandir yn sgil buddugoliaeth dros Sbaen a'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd yn y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain (1618–48). Yn ystod teyrnasiad Louis XIV, yn yr 17g, Ffrainc oedd y prif bŵer diwylliannol, gwleidyddol, a milwrol yn Ewrop.[1] Ar yr un pryd, datblygodd Ffrainc ei hymerodraeth drefedigaethol yn Asia, Affrica, a'r Amerig. Ar ei hanterth ym 1680, roedd Ffrainc yn meddu ar 10 miliwn km2 o drefedigaethau, yr ail ymerodraeth fwyaf yn y byd ar ôl Sbaen. Erbyn 1763, collodd y rhan fwyaf o'i thiroedd yng Ngogledd America, sef Ffrainc Newydd, o ganlyniad i ryfel â Phrydain Fawr. Llwyddodd ymyrraeth y Ffrancod yn Chwyldro America i ennill annibyniaeth i Unol Daleithiau America, ond heb fawr o fudd i Deyrnas Ffrainc.

Mabwysiadwyd cyfansoddiad ysgrifenedig gan Deyrnas Ffrainc ym 1791, yn ystod y Chwyldro Ffrengig, ond ym 1792 diddymwyd y frenhiniaeth yn llwyr a sefydlwyd Gweriniaeth Gyntaf Ffrainc. Adferwyd brenhinllin y Bourboniaid ym 1814 yn sgil buddugoliaeth y pwerau mawrion eraill dros Ymerodraeth Napoleon yn Rhyfel y Chweched Glymblaid, ond dymchwelwyd y frenhiniaeth unwaith eto yng nghyfnod y Can Niwrnod. Wedi cwymp terfynol Napoleon ym Mrwydr Waterloo, ailadferwyd Teyrnas Ffrainc, a fyddai'n parhau hyd at ymddiorseddu Louis Philippe I yn ystod Chwyldro 1848.

Cyfeiriadau

golygu
  1. R.R. Palmer; Joel Colton (1978). A History of the Modern World (arg. 5th). t. 161.