Glamorganshire (Cambridge County Geographies)
Glamorganshire yw'r gyfrol yn y gyfres Cambridge County Geographies sy'n ymdrin â'r hen Forgannwg.[1]
Cefndir
golyguMae Cambridge County Geographies yn gyfres o lyfrau a gyhoeddwyd gan Wasg Brifysgol Caergrawnt yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif. Cynlluniwyd Cambridge County Geographies i ddarparu cyfres o ganllawiau cryno i rai o siroedd Cymru, Yr Alban a Lloegr. Wedi'u hanelu at y darllenydd cyffredinol, fe wnaethant gyfuno dull cynhwysfawr o ymdrin ag amrywiol agweddau ar ddaearyddiaeth gorfforol a dynol gyda phwyslais ar eglurder. Mae'r llyfrau yn frith o ffotograffau, mapiau a graffiau. Ysgrifennwyd y gyfrol am Forgannwg gan y Parch Joseph Henry Wade, ac fe'i cyhoeddwyd gyntaf ym 1914 gan Wasg Brifysgol Caergrawnt. Ailgyhoeddwyd y gyfrol yn 2013,[2] mae'r ailgyhoeddiad dal mewn print. Mae modd darllen y gyfrol wreiddiol ar wefan Internet Archive.[3]
Cafodd y gyfrol adolygiadau da yn y wasg Gymreig ar adeg ei gyhoeddi am y tro cyntaf.[4][5]
Cynnwys
golyguMae'r llyfr yn cynnwys 25 pennod sy'n ymdrin â tharddiad ac ystyr yr enw Morgannwg; nodweddion cyffredinol y sir a'i afonydd, llynnoedd ac arfordiroedd yn ogystal â'i phorthladdoedd. Mae'r gyfrol yn ymdrin â hanes pensaernïaeth, enwogion a hynafiaethau'r sir yn ogystal â thrafodaeth am bobl, iaith a phoblogaeth. Mae penodau am ddaeareg, hanes naturiol a hinsawdd ynghyd â phennod sy'n trafod prif ddiwydiannau'r fro megis mwyngloddio, cynhyrchu, pysgota ac amaethyddiaeth. Mae hefyd rhestr gyda pharagraff o wybodaeth am holl drefi a phentrefi Morgannwg.
Penodau
golyguDyma restr o benodau'r gyfrol
- County and Shire. The name Glamorgan
- General Characteristics
- Size. Shape. Boundaries
- Surface and General Features
- Geology and Soil
- Watersheds and Rivers
- Natural History
- A Peregrination of the Coast
- Coastal Gains and Losses: Sandbanks and Lighthouses
- Climate and Rainfall
- People, Race, Language. Population
- Agriculture
- Industries and Manufactures
- Mines and Minerals
- Fisheries and Fishing Stations
- Shipping and Trade. Chief Ports
- The History of Glamorganshire
- Antiquities
- Architecture (a) Ecclesiastical.
- Architecture (b) Military
- Architecture (c) Domestic
- Communications Past and Present
- Administration
- Roll of Honour
- The Chief Towns and Villages of Glamorganshire
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Wade, Joseph Henry (1914). Glamorganshire. Caergrawnt: Gwasg Brifysgol Caergrawnt.
- ↑ Wade, J. H. (Joseph Henry), 1861-1943. (2012). Glamorganshire. Cambridge: Cambridge University Press. ISBN 978-1-107-61972-2. OCLC 806199574.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-12-08.
- ↑ "REVIEW OF PUBLICATIONS - Barry Dock News". South Wales Advertising, Printing, and Publishing Company. 1914-08-28. Cyrchwyd 2019-12-09.
- ↑ "NODIAD AR LYFR - Y Darian". W. Pugh and J. L. Rowlands. 1914-09-10. Cyrchwyd 2019-12-09.