Joseph Henry Wade

offeiriad eglwysig ac awdur Cymreig

Roedd y Parchedig Joseph Henry Wade (186122 Rhagfyr, 1943) yn offeiriad Anglicanaidd ac awdur Cymreig.[1]

Joseph Henry Wade
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Cefndir golygu

Ganwyd Wade yng Nghasnewydd yn blentyn i Joseph Henry Wade, meistr llong a Hannah (née Atkinson) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Trefynwy a Phrifysgol Caerdydd lle raddiodd gyda BA Prifysgol Llundain ym 1885 a Choleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan lle enillodd gradd dosbarth cyntaf mewn Diwinyddiaeth ym 1887.[2]

Gyrfa golygu

Gwasanaethodd Wade fel offeiriad Eglwys Lloegr yn Altrincham yn Swydd Gaer, Kingsbury Episcopi, yng Ngwlad yr Haf a Colesford Swydd Caerloyw. Ymddeolodd o'i weinidogaeth ym 1914.

Yn ogystal a'i waith fel offeiriad bu Wade yn awdur nifer o lyfrau gan gynnwys:

  • Little Guide to Somerset (1907) (ar y cyd a'i frawd George Woosung Wade D.D.)
  • Little Guide to Monmouthshire (1909) (ar y cyd a'i frawd)
  • Little Guide to South Wales (1913) (ar y cyd a'i frawd) [3]
  • Glamorganshire (Cambridge County Geographies) (1914) [4]
  • Little Guide to Herefordshire (1917) (ar y cyd a'i frawd)
  • Rambles in Cornwall (1928)
  • Rambles in Devon (1930)

Teulu golygu

Priododd Alice Josephine Crompton, yn Eglwys St. Bartholomew, Altrincham ym 1893, ni fu iddynt blant

Marwolaeth golygu

Bu farw yn Weston-super-Mare yn 82 mlwydd oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Joseph Henry Wade MA (1861-1943) | WikiTree FREE Family Tree". www.wikitree.com. Cyrchwyd 2019-12-09.
  2. "DEGREE DAY AT LAMPETER COLLEGE - The Aberystwith Observer". David Jenkins. 1887-07-02. Cyrchwyd 2019-12-09.
  3. "A NEW BOOK ON SOUTH WALES - The Cambria Daily Leader". Frederick Wicks. 1913-05-17. Cyrchwyd 2019-12-09.
  4. Wade, Joseph Henry (1914). Glamorganshire. Caergrawnt: Gwasg Brifysgol Caergrawnt.