Mae Glampio yn gyfansoddair cywasgedig o'r gair Saesneg 'glamorous' a 'campio' (Cymreigiad o'r Saesneg 'glamping') sy'n disgrifio dull o wersylla gydag amwynderau ac, mewn rhai achosion, gwasanaethau cyrchfan heb fod yn gysylltiedig â gwersylla "traddodiadol". Mae glampio wedi dod yn arbennig o boblogaidd gyda thwristiaid yr 21ain ganrif sy'n chwilio am foethusrwydd llety gwesty ochr yn ochr â'r "ddihangfa ac antur o wersylla".[1][2][3][4]

"Pentref" glampio gyda yurts, llwybrau gro a thwba twym

Er bod y gair 'glampio' yn un cymharol ddiweddar, ceir llawer o enghreifftiau o wersylla moethus ar hyd y canrifoedd, yn arbennig ymhlith y bonedd.

Un enghraifft yw'r uwchgynhadledd diplomyddol, a elwir yn Maes y Brethyn Aur,a gynhaliwyd yng ngogledd Ffrainc yn 1520 rhwng Harri VIII o Loegr a Ffransis I o Ffrainc. Codwyd tua 2,800 o bebyll, ac roedd yno ffynhonnau o win coch.[5]

Mae nifer o wyliau mawr bellach yn cynnig cyfleusterau glampio i'r rhai sy'n eu mynychu.

Cafwyd cyfleusterau glampio (wedi'u darparu gan gwmni Best of Wales) yn gysylltiedig â maes gwersylla'r Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf pan gynhaliwyd yr brifwyl yn Meifod yn 2015.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. Lickus, Jay (11 March 2015). "Have You Ever Been 'Glamping?'". Huffington Post.
  2. Southerden, Louise (19 March 2015). "Six of the best: New Australian glamping camps". Sydney Morning Herald.
  3. Devine, Darren (17 March 2015). "Glamping's yurts, podes and domes continue to lead way for Welsh tourism". Wales Online.
  4. "'Glamping' brings creature comforts to outdoors". USA Today. 2011-08-04. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-06. Cyrchwyd 2011-09-27. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  5. Edward Hall's Chronicles
  6. "Glampio yn y Brifwyl". Golwg360.